Mae cynlluniau posib i adeiladu fferm wynt yn ardal Moelfre, Sir Conwy, wedi cael eu gohirio.

Yn ôl adroddiadau, y bwriad oedd codi 20 o dyrbinau gwynt hyd at 250 metr o uchder.

Fodd bynnag, roedd y cwmni Bute Energy, a oedd yn gyfrifol am y cynlluniau, wedi gwadu’r ffigyrau yma gan ddweud nad oedd ffigwr terfynol wedi cael ei gyrraedd eto.

Erbyn hyn, mae’r cwmni wedi dweud na fydden nhw’n bwrw ymlaen gyda’r cynlluniau o ganlyniad i sawl ffactor a godwyd yn dilyn asesiad diweddar o’r safle.

“O ganlyniad i ystod o ffactorau sy’n benodol i safleoedd, yn cynnwys cyfyngiadau ar fynediad, a chyfyngiadau ecolegol a thechnegol, ni fydd y cynnig yn bwrw ymlaen,” meddai Bute Energy.

“Gwyddom fod gan bobl wahanol farnau am seilwaith newydd.

“Ond ledled Cymru, mae yna gytuno cyffredinol bod gan ynni adnewyddadwy ran bwysig o ran ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

“Dengys ymchwil fod yna fwyafrif pendant o bobl yn cefnogi gwynt ar y tir ac maent yn fwy na bodlon gweld seilwaith ynni adnewyddadwy yn eu hardal leol.”

‘Wedi gweld synnwyr’

Y bwriad oedd cynhyrchu trydan gwyrdd er mwyn symud tuag at darged Llywodraeth Cymru o ddefnyddio trydan 100% adnewyddadwy erbyn 2035.

Fodd bynnag, roedd ymgyrchwyr yn gwrthwynebu’r cynlluniau gan honni y byddai’n cael “effaith ddinistriol” ar ardal wledig.

Mae’r penderfyniad i dynnu’n ôl o’r cynlluniau wedi cael ei groesawu gan sawl un yn cynnwys yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd, Darren Millar.

“Rwy’n falch iawn bod Bute Energy wedi gweld synnwyr o’r diwedd ac wedi tynnu eu cynigion ar gyfer fferm wynt ym Moelfre Uchaf yn ôl,” meddai.

“Byddai’r cynigion ar gyfer tyrbinau anferth hyd at 250 metr o uchder wedi bod yn ddinistriol i’r ardal, yn difetha bywydau a bywoliaeth, ac wedi cael effaith sylweddol a niweidiol ar dirwedd gogledd Cymru.

“Dim ond mewn mannau lle maen nhw’n mwynhau cefnogaeth gymunedol y dylid adeiladu ffermydd gwynt – nid yw’r lleoliad hwn yn un ohonyn nhw.”

‘Dim dewis’

Yn ôl yr Elusen Cefn Gwlad Cymru, YDWC, doedd gan y cwmni “ddim dewis” ond tynnu’n ôl o ganlyniad i wrthwynebiad cryf gan bobl leol.

“Dydy penderfyniad Bute Energy ddim yn dod fel syndod,” meddai llefarydd.

“O ystyried cryfder ac undod y gwrthwynebiad lleol, roedd safbwynt y datblygwr yn anghynaladwy.

“Doedd ganddyn nhw ddim dewis ond tynnu’n ôl.”