Fe fydd yr Uchel Lys yn Llundain heddiw (dydd Gwener, 7 Gorffennaf) yn clywed achos ynglŷn â chynlluniau i gartrefu ceiswyr lloches mewn gwesty yn Llanelli.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dwyn achos cyfreithiol yn erbyn y cwmnïau  fydd yn cau Gwesty Parc y Strade i gynnal ceiswyr lloches. Mae’r cyngor yn honni y byddai defnydd Gwesty Parc y Strade yn newid heb gael caniatâd cynllunio.

Yn ôl adroddiadau, bydd y gwesty’n cael ei ddefnyddio i letya hyd at 241 o geiswyr lloches mewn 76 ystafell o 10 Gorffennaf.

Cafodd 95 aelod o staff y gwesty wybod mewn cyfarfod yr wythnos diwethaf y byddan nhw’n colli eu swyddi.

Mae hyn yn cynnwys 50 aelod o staff llawn amser a 45 rhan amser, fydd yn colli eu swyddi’n swyddogol wedi i’r ceiswyr lloches symud i mewn ar 10 Gorffennaf.

Bydd yr holl ddigwyddiadau sydd wedi eu trefnu yn y gwesty wedi’r dyddiad hwnnw, megis priodasau, hefyd yn cael eu gohirio.

Daw’r cynlluniau gan y Swyddfa Gartref, sy’n dweud bod nifer y ceiswyr lloches sydd angen llety yn rhoi straen ar y system loches. Ond mae’r Cyngor a nifer o bobl leol wedi mynegi pryderon am y cynlluniau, gan gynnwys AS Llafur Llanelli Nia Griffith, sydd wedi codi’r mater yn y Senedd.

Datganiad y Cyngor

Dywedodd y cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cychwyn achos cyfreithiol yn erbyn Gryphon Leisure Limited, Sterling Woodrow Limited, Clearsprings Ready Homes Limited, Robert Horwood a Gareth Street ynghylch newid defnydd sylweddol Gwesty Parc y Strade, Llanelli heb ganiatâd cynllunio.

“Bydd yr achos yn destun gwrandawiad ar 7 Gorffennaf yn yr Uchel Lys yn y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol, Strand, Llundain.

“Nid yw’r Cyngor yn gallu gwneud sylw pellach ar hyn o bryd oherwydd yr angen i barchu’r broses gyfreithiol sydd ar waith.”