Fe fydd £15 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn consortiwm o brifysgolion, gan gynnwys Caerdydd ac Aberystwyth, er mwyn sefydlu canolfan ymchwil ac arloesi rheilffyrdd yn ne Cymru, fe gyhoeddwyd heddiw (Gorffennaf 6).
Daw’r arian gan Gronfa Fuddsoddi Partneriaeth Ymchwil y Deyrnas Unedig.
Mae’r arian wedi cael ei groesawu gan Gymdeithas y Diwydiant Rheilffyrdd (RIA) gyda’r pennaeth ar gyfer Cymru a’r Gorllewin, Robert Cook, yn ei alw’n “bleidlais o hyder.”
“Mae’r buddsoddiad hwn yn bleidlais o hyder mewn ymchwil ac arloesi yn Ne Cymru a bydd yn helpu i sicrhau datblygiad y diwydiant rheilffyrdd ledled y DU yn y dyfodol,” meddai.
“Mae’r cyllid a’r bartneriaeth rhwng y tair prifysgol hyn yn newyddion da i aelodau’r RIA a’r sector cyflenwi, a bydd yn helpu’r llywodraethau yng Nghaerdydd a San Steffan i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig mwy effeithiol.”
Sefydlu canolfan newydd
Bydd y buddsoddiad yn cael ei rannu rhwng prifysgolion Abertawe, Caerdydd a Birmingham er mwyn eu galluogi i sefydlu’r ganolfan newydd yn ardal Castell Nedd.
“Rydym ni a’n haelodau yn edrych ymlaen at weithio ar hyn gyda phrifysgolion Caerdydd, Abertawe a Birmingham yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod,” meddai.
Bwriad yr arian yw galluogi’r datblygiad o system rheilffyrdd mwy effeithlon yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig.
Mis diwethaf cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sy’n gyfrifol am drafnidiaeth Lee Waters, ei fod am wella’r llinell rhwng Wrecsam a phentref Bidston yn Nhilgwri.
Daeth hyn wedi i deithwyr gwyno am yr oedi, gohiriadau a’r gorlenwi oedd yn mynd ymlaen yno.
“Mae’n deg dweud bod nifer o heriau wedi bod i wasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru yn ystod y misoedd diwethaf ac nid yw’r materion ar y rheilffordd hon wedi bod yn ddigon da,” meddai Lee Waters.
Buddion HS2?
Ond, mae cwynion am reilffyrdd yng Nghymru wedi ymestyn ymhellach na hyn, gyda sawl un yn codi pryderon na fydd prosiect rheilffyrdd cyflym HS2 Llywodraeth y Deyrnas Unedig o unrhyw fudd i Gymru.
Er hynny, mae llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig Natasha Asghar wedi dadlau nad dyna’n union yw’r achos.
“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn credu y dylai Cymru gael cyllid ychwanegol o ganlyniad i HS2, ond nid yw hynny’n golygu na fydd y prosiect yn dod â buddion uniongyrchol ac anuniongyrchol i Gymru – gyda 44 o gyflenwyr HS2 yn fusnesau bach Cymreig,” meddai.
“Bydd HS2 yn darparu amseroedd teithio cyflymach i’r rhai yng ngogledd Cymru drwy Crewe, ond nid yw’r manteision y mae’n eu darparu i Gymru gyfan yn ddigon arwyddocaol ar gyfer ei dynodiad ‘Cymru a Lloegr’.”
Mae’r gwaith cynllunio eisoes wedi dechrau ar y cyfleusterau yn ardal Castell-nedd a disgwylir y bydd gwaith yn cychwyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.