Yws Gwynedd, Eden, Y Cledrau a Gwilym fydd rhai o’r perfformwyr ar brif lwyfan Gŵyl Canol Dre ym Mharc Myrddin, Caerfyrddin y dydd Sadwrn hwn (Gorffennaf 8).

Menter Gorllewin Sir Gâr sy’n trefnu’r ŵyl a barn un o’r trefnwyr yw ei fod yn gyfle arbennig i roi llwyfan i fandiau lleol a chenedlaethol.

“Ni’n browd iawn fod Bald Patch Peggy a Dros Dro hefyd yn mynd i fod yn perfformio yn yr ŵyl.

“Maen nhw yn fandiau sydd wedi cael cyfleoedd gyda ni i gychwyn eu gyrfa ac maen nhw nawr yn mynd o nerth i nerth.

“Dyma’r wŷl am ddim fwyaf yn y Gorllewin gyda phob math o fudiadau lleol yn cymryd rhan a phob mathau o weithdai lleol.”

‘Wrth galon y gymuned’

Mae’r ŵyl wrth galon y gymuned, meddai.

“Mae’r wŷl yn gyfle gwych i bawb yn y gymuned ddod at ei gilydd,” meddai.

“Mae’n gyfle i’r Gymraeg gael ei defnyddio yn naturiol yn ein cymuned ni.

“Mae’n rhoi cyfle i fudiadau a busnesau lleol i hyrwyddo’r Gymraeg yn y sir.”

 Amryw o ddigwyddiadau

 Nid yn unig bydd perfformiadau ar y brif lwyfan ond bydd amryw o weithgareddau eraill yn digwydd.

“Bydd hefyd gyda ni lwyfan berfformio lle bydd Siani Sionc a Chlybiau Ffermwyr Ifanc lleol yn perfformio,” meddai.

“Wedyn hefyd bydd gyda ni bedwar pabell efo ardal chwaraeon a gweithdai amrywiol gan gynnwys panel holi gyda Hanna Hopwood yn cyfweld Eden, Tudur Phillips, cwis i ddysgwyr a phob math o bethau.

“Bydd stondinau gyda llawer o fusnesau a mudiadau lleol hefyd. Bydd digon o stondinau bwyd a diod i bawb hefyd.

 “Mae’r ŵyl hon am ddim i’r cyhoedd a chroeso i bawb ymuno.”