Bydd gwaith atgyweirio pellach i adfer Pont y Borth yn Ynys Môn yn cychwyn mis nesaf gan barhau am bron i ddwy flynedd, gyda’r bwriad o wneud gwelliannau parhaol iddi.
Y gobaith yw gorffen y gwaith erbyn diwedd haf 2025 er mwyn sicrhau ei fod wedi ei gwblhau erbyn 200 mlwyddiant y bont ym mis Ionawr 2026.
Penderfynwyd y bydd y gwaith yn cychwyn yn swyddogol ddydd Llun, Medi 4 er mwyn sicrhau nad yw’n amharu ar draffig gwyliau’r haf.
Bydd y gwaith yn mynd yn ei flaen dros wyliau’r Pasg, hanner tymor a’r haf er mwyn lleihau’r oedi yn sgil amodau tywydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi addo y bydden nhw’n gwneud pob ymdrech i leihau’r effaith ar bobol leol.
‘Cyn lleied o aflonyddwch â phosibl’
“Byddwn yn gwneud ein gorau glas i osgoi creu rhagor o anhwylustod i gymunedau bob ochr y bont ac rydyn ni’n ddiolchgar iddyn nhw am eu hamynedd,” meddai Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sy’n gyfrifol am drafnidiaeth.
“I wneud y siŵr bod y bont yn dal i’n gwasanaethu ar ôl ei 200fed flwyddyn, mae’n bwysig bod digon o amser yn cael ei roi i’r gwaith adfer.
“Byddwn yn dal i weithio gyda’r holl bartneriaid, gan gynnwys y gwasanaethau argyfwng, i greu cyn lleied o aflonyddwch â phosibl ac i wneud y gwaith mor gyflym a diogel ag y medrwn.”
Bydd system rheoli traffig yn cael ei weithredu er mwyn sicrhau na fydd yn rhaid cau’r bont yn llwyr ac i hwyluso pethau i drigolion.
Dim ond un lon fydd yn cau yn ystod yr oriau gwaith, sef rhwng 7 y bore a 7 yr hwyr a bydd goleuadau traffig yn cael eu rheoli â llaw er mwyn sicrhau bod traffig yn llifo mor esmwyth â phosib.
‘Pryderon diogelwch’
Dyma fydd ail gymal y gwaith wedi i rodenni fertigol dros dro gael eu gosod yn gynharach eleni.
Bydd y rhain yn cael eu disodli gan rodenni fertigol parhaol yn dilyn “cyfnod o ddatblygu a phrofi trylwyr, yn ogystal â gwaith peintio helaeth.”
Bydd Llywodraeth Cymru a UK Highways A55 Limited yn goruchwylio’r gwaith, a fydd yn cael ei gyflawni gan Spencer Group.
Bu’r bont ar gau yn ystod mis Hydref 2022 oherwydd “pryderon diogelwch difrifol.”
Roedd wedi ail-agor ym mis Chwefror eleni yn dilyn gwaith atgyweirio brys a gafodd ei gwblhau mewn cyfnod o bedair wythnos.
Bu ymateb chwyrn i hyn ar y pryd gyda sawl un yn bryderus am yr effaith economaidd ar ardal Porthaethwy a de ddwyrain Môn.
‘Hynod Siomedig’
Ymatebodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth i’r newyddion o waith atgyweirio pellach mewn datganiad ar Facebook gan ddweud ei fod yn “hynod o siomedig” gyda’r amserlen o 18 mis.
“Rwy’n hynod siomedig a rhwystredig bod yr amcangyfrif ar gyfer yr amserlen i gwblhau’r gwaith parhaol ar Bont y Borth yn mynd i gymryd cymaint o amser,” meddai’r Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn.
“Hyd yn oed gydag un lôn ar agor yn ystod y cyfnod hwn, does gen i ddim amheuaeth y bydd yr effaith ar y gymuned leol a defnyddwyr y bont yn sylweddol.
“Wrth gwrs, mae hwn yn waith hanfodol, ac roedd yn sicr o gymryd cryn dipyn o amser, ond mae angen inni ddod â’r amserlen yma i lawr.”
Trydedd groesfan?
Mae’r arweinydd ymhlith rheiny sydd wedi galw am drydedd groesfan wedi’r oedi hir a fu ar Bont Britannia tra roedd gwaith yn cael ei wneud ar Bont y Borth y llynedd.
Y pryder yw bydd y gwaith yn effeithio ar fusnesau ym Mhorthaethwy a de ddwyrain Môn ac felly mae wedi galw am ystyried a oes angen pecyn cymorth busnes.
“Rydym yn gwybod yn rhy dda beth yw sgil-effeithiau’r tarfu ar ein pontydd,” meddai.
“Dyna pam rwy’n glir bod angen croesfan fwy cadarn, a’r ateb yw deuoli Britannia neu, mewn geiriau eraill, i godi trydedd groesfan.”
Mae codi trydedd groesfan dros y Fenai ymysg y prosiectau yn nogfen prosiectau seilwaith Llywodraeth Cymru a ryddhawyd yn Rhagfyr 2022.
Yn ôl y ddogfen, byddai’r prosiect yn “gwella diogelwch, amseroedd teithio a gwytnwch rhwydwaith”.
Mae’r Llywodraeth wedi dweud ei fod “yn debygol iawn” y caiff pob prosiect yn y ddogfen eu cyflawni ond nid ydynt wedi ymrwymo i’r groesfan yn ffurfiol.
Byddai’r prosiect yn costio £400 miliwn a’r bwriad yw cychwyn y gwaith yn 2027 a’i gwblhau erbyn 2029/30.