Mae cannoedd o bobl wedi dod i roi teyrnged yn ystod angladd dau fachgen ifanc yn eu harddegau fu farw mewn gwrthdrawiad beic yng Nghaerdydd ym mis Mai.

Fe fu terfysgoedd yn Nhrelái, Caerdydd yn dilyn marwolaeth Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15 oed, oedd wedi cael eu dilyn gan fan Heddlu’r De.

Roedd Cyngor Caerdydd wedi cau’r ffyrdd yn arwain at Eglwys yr Atgyfodiad, lle cafodd y gwasanaeth ei gynnal heddiw (dydd Iau, 6 Gorffennaf). Fe fydd y ddau yn cael eu claddu gyda’i gilydd yn yr un bedd gan eu bod wedi bod yn ffrindiau ers yr ysgol feithrin. Roedd athrawon o Ysgol Gynradd Herbert Thompson, lle’r oedd y ddau wedi bod yn ddisgyblion, ymhlith y galarwyr.

Mae ysgolion yr ardal wedi cau am y prynhawn gan fod cynifer o bobl a thraffig ar y ffyrdd oherwydd yr angladd.

Yn dilyn y terfysgoedd yn Nhrelái ar 22 Mai cafodd naw o bobl eu harestio a 15 o swyddogion yr heddlu eu hanafu.

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn ymchwilio i’r digwyddiad ac ymateb Heddlu’r De cyn y gwrthdrawiad.