Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi dweud bod yn rhaid diwygio’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru er mwyn sicrhau ei ddyfodol.

Daw hyn wedi i alw cynyddol am wasanaethau iechyd ychwanegu at y straen sy’n wynebu’r GIG.

Rhwng 2017 a 2019 roedd bron i 20,000 o bobl yn cael diagnosis o gancr bob blwyddyn yng Nghymru.

Fodd bynnag, yn ôl amcangyfrifon mae’n bosib bydd y ffigwr yn cyrraedd 25,000 erbyn 2040 gyda disgwyl i nifer yr achosion o ddiabetes math 2 hefyd gynyddu 17% erbyn 2035.

Mae disgwyliad oes hirach ac ymddangosiad problemau iechyd mwy cymhleth hefyd wedi cynyddu’r pwysau ar y gwasanaeth.

Angen cymorth y cyhoedd

Mewn cynhadledd i ddathlu 75 mlynedd o’r Gwasanaeth Iechyd, dywedodd Eluned Morgan bod yn rhaid newid a bod angen cymorth y cyhoedd i lunio’r diwygiadau hyn.

“Mae ffordd o weithio’r Gwasanaeth Iechyd wedi newid dros y 75 mlynedd diwethaf, a bydd rhaid iddo ddal i newid os ydyn ni am ei ddiogelu i’r genhedlaeth nesaf,” meddai.

“Mae’r straen sydd ar y system a’r galw am wasanaethau yn fwy nag erioed.

“Fe fydd rhaid inni ofyn cwestiynau anodd am sut rydyn ni’n gwneud y newid yma ac yn addasu i’r pwysau.

“Mae anghenion gofal iechyd Cymru wedi newid. Rydyn ni am i’r cyhoedd a gweithwyr gofal iechyd weithio gyda’i gilydd i greu system lle mae pawb yn deall ei gyfrifoldebau.”

Gofal yn y gymuned

Yn ôl Eluned Morgan, mae angen ailstrwythuro gofal iechyd yng Nghymru drwy sicrhau bod mwy o ofal yn cael ei gynnig yn y gymuned.

Fodd bynnag, dywedodd bod hefyd dyletswydd ar unigolion i reoli eu hiechyd a’u lles.

“Rhan ganolog o hyn yw delio â materion yn ymwneud â’r gweithlu. Mae angen inni ganolbwyntio ar symud gofal allan o ysbytai ac i mewn i’r gymuned, ac ar yr hyn sydd orau er lles y claf,” meddai.

“Ond fe fydd rhaid inni hefyd roi mwy o bwys ar ein cyfrifoldeb ni i geisio cadw’n heini ac yn iach a rheoli ein hiechyd a’n lles ein hunain, pan fo hynny’n bosib’.

“Mae angen i bobl, y Gwasanaeth Iechyd a chymdeithas yn ehangach weithio gyda’i gilydd i’w gwneud yn haws i bawb fyw bywydau iachach.

“Os na wnawn ni hynny, rydyn ni’n gwybod y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd iawn o ran pa wasanaethau fydd ar gael yn y dyfodol.”

Newidiadau ar y gweill

Dywedodd bod adnoddau yn barod wedi cael eu symud i gymunedau er mwyn lleihau nifer y bobl sydd angen mynd i’r ysbyty.

Yn ogystal, cyflwynwyd gwasanaeth GIG 111 yn ddiweddar ynghyd a newid yn y gyfraith er mwyn galluogi optegwyr i ddelio gydag ystod fwy eang o broblemau llygaid.

Er hynny, mae gwaith yn parhau i fod ar y gweill er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

Dywedodd bod y Strategaeth Iechyd trawsffurfiol, Cymru Iachach, yn canolbwyntio’n benodol ar unioni anghydraddoldebau.

Ymysg y newidiadau, bydd Cymru hefyd yn dod yn un o’r gwledydd cyntaf i ymgynghori ar gynlluniau i bob corff cyhoeddus asesu’r effaith ar iechyd cyn cyflwyno mesurau newydd.

Cyhoeddodd Eluned Morgan y byddai grŵp annibynnol yn cael ei sefydlu er mwyn adolygu a yw mecanweithiau llywodraethu ac atebolrwydd y Gwasanaeth Iechyd yn addas ar gyfer y dyfodol.

Beirniadaeth gan y Ceidwadwyr

Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George, wedi beirniadu’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru gan ddweud nad oes gan y Llywodraeth “unrhyw gynllun i wrthdroi eu toriad niweidiol i gyllideb ein GIG yng Nghymru eleni”.

“Dim cynllun i hybu gweithlu’r GIG. Dim cynllun i ddileu arosiadau dwy flynedd annerbyniol ar gyfer triniaeth sydd wedi cael eu dileu fwy neu lai mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig eisiau gweld y £1.20 y mae’r Llywodraeth Lafur yn ei dderbyn am bob £1 sy’n cael ei wario ar iechyd yn Lloegr yn cael ei wario ar ein GIG yng Nghymru.

“Mae angen i ni hefyd weld ymrwymiad gan Lafur i hybu’r gweithlu yma, fel y mae’r Prif Weinidog yn ei wneud yn Lloegr i gadw ein rhestrau aros i lawr.”