Mae prisiau tai yng Nghymru wedi gweld cwymp o 1.7% dros y flwyddyn ddiwethaf, yn dilyn costau morgeisi cynyddol i brynwyr tai tro cyntaf a phobol ar gyfraddau morgeisi amrywiol.

Daw hyn wedi i gyfradd llog sylfaenol gynyddu o 1.75% i 5% – ac mae disgwyl y bydd yn parhau i gynyddu wrth i’r banc geisio lleihau cyfradd chwyddiant y Deyrnas Unedig.

Fis Mehefin, £207,763 oedd y pris cyfartalog ar gyfer tai yng Nghymru, yn ôl y Nationwide Building Society.

Gwelodd y Deyrnas Unedig ostyngiad cyfartalog o 3.5%, gyda’r ffigwr yn gostwng i £262,239.

Roedd y gostyngiad o 1.7% yng Nghymru yn sylweddol is o gymharu â rhai rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, megis Dwyrain Anglia lle bu gostyngiad o 4.7%.

Wedi hynny, roedd yn uwch na Gogledd Iwerddon, lle roedd gostyngiad o 0.7% a’r Alban lle mai 1.5% oedd y ffigwr.

Problem tymor byr?

Yn ôl Robert Gardener, prif economegydd Nationwide, mae’r cynnydd mewn costau benthyca yn debygol o effeithio ar weithgarwch y farchnad dai yn y dyfodol agos.

“Ar ben hynny, mae’r cynnydd sydyn mewn pris rhentu yn ei gwneud yn anodd i bobol safio digon o arian i roi blaendal ar dŷ,” meddai.

Fodd bynnag, dywed Paul Welch, Prif Weithredwr LargeMortgageLoans.com, ei fod yn credu mai problemau tymor byr fydd y rhai sy’n wynebu’r farchnad dai.

“Mae Nationwide yn credu bod glanio cymharol feddal yn dal yn bosibl, ac rwy’n cytuno y bydd y boen yn y marchnadoedd tai a morgeisi yn gymharol fyrhoedlog, efallai chwech i naw mis, felly mae’n fater o geisio mynd drwy’r cyfnod cythryblus hwn yn unig,” meddai.

“Er y disgwylir i’r gyfradd sylfaenol gyrraedd anterth uwch nawr o gymharu ag ychydig fisoedd yn ôl, mae’r straeon am ostyngiadau prisiau tai disgwyliedig ymhell ohoni.”

Cynllun achub morgeisi

Mae Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru, eisoes wedi mynegi ei ddymuniad i weld y cynllun achub morgeisi yn dychwelyd.

Dywed ei fod e eisiau gweld banciau yn cytuno i dalu cyfraddau uwch, neu drethi untro, yn ystod cyfnodau o galedi i ddeiliaid morgeisi a rhentwyr.

“Tra bod cartrefi a rhentwyr yn brwydro o dan bwysau cyfraddau llog, mae pedwar banc mawr y Deyrnas Unedig wedi gweld eu helw yn cynyddu 42%,” meddai.

“Mae banciau mawr wedi gwneud dros £4.8bn o elw ychwanegol drwy beidio â throsglwyddo codiadau cyfradd llog i gynilwyr.

“Mae’n hen bryd iddynt gyfrannu eu cyfran deg i gefnogi unigolion sy’n mynd i’r afael ag argyfwng morgais.”