Wrth i Gyngor Gwynedd roi cyfle i bobol y sir ddweud eu dweud am eu Hamcanion Cydraddoldeb, mae un o’r cynghorwyr sir yn dweud bod “materion cydraddoldeb yn berthnasol i bawb”.

Mae Cyngor Gwynedd eisiau i bobol leol fanteisio ar y cyfle i roi eu barn ar eu hamcanion, fydd o gymorth i sicrhau bod eu polisïau a’u gweithdrefnau’n parhau i fod mor deg â phosib at y dyfodol.

Mae’r holiadur ar gael tan ddiwrnod olaf mis Gorffennaf, ac mae modd ei gwblhau ar-lein neu ar bapur, a’i anfon yn ôl drwy’r post.

Yn ôl Deddf Cydraddoldeb 2010, mae’n rhaid i’r Cyngor gael Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn ei le, a hwnnw’n arwain gwasanaethau, polisïau a’r ffordd mae’r Cyngor yn gweithredu o ddydd i ddydd.

Yr Amcanion Cydraddoldeb sy’n sail i’r cynllun, a bydd y Cyngor yn edrych arnyn nhw bob pedair blynedd.

“Mae materion cydraddoldeb yn berthnasol i bawb – mae gan bob un ohonom oedran, credoau, rhywioldeb a phob math o nodweddion eraill sy’n effeithio ar sut rydym yn byw ein bywydau,” meddai’r Cynghorydd Menna Trenholme, yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Gydraddoldeb, wrth golwg360.

“Mae angen gweld os ydi’r amcanion sydd gennym ar gyfer y cyfnod presennol, sef 2020-24, angen eu newid neu ychwanegu atynt.

“Rydym yn gofyn i bobol ddarllen y pum amcan yma, ac ystyried os ydych chi’n meddwl fod eisiau i ni eu cadw fel ag y maen nhw, cadw rhai ohonyn nhw, neu ddefnyddio rhai newydd ar gyfer y Cynllun Cydraddoldeb 2024-28.

“Drwy gymryd y cyfle yma i ddweud eich dweud, byddwch yn helpu i sicrhau fod y Cyngor yn gallu ystyried y materion hyn wrth gynllunio gwasanaethau ac adnoddau i’r dyfodol.

“Bydd yr atebion rydym yn eu derbyn o’r holiadur – yn ogystal â data o wahanol lefydd, canllawiau Llywodraeth Cymru a chynlluniau eraill y Cyngor – yn helpu i siapio Cynllun Cydraddoldeb Cyngor Gwynedd.”

Bydd Amcanion Cydraddoldeb Drafft yn cael eu hystyried gan Gabinet y Cyngor, ac os ydyn nhw’n ei gymeradwyo, bydd cyfle pellach i’r cyhoedd roi eu barn yn yr hydref.

Y gobaith yw y bydd Cabinet y Cyngor yn derbyn yr Amcanion Cydraddoldeb newydd yng ngwanwyn 2024.

Profiad bywyd pobol go iawn

Er mwyn deall rhwystredigaethau, mae angen i’r Cyngor glywed am brofiadau pobol go iawn o bob ardal.

Mae camau pellach wedi eu cymryd drwy ymgysylltu, ac mae ffynonellau gwybodaeth eraill ar gael.

“Hoffwn annog pawb i lenwi’r ymgynghoriad,” meddai’r Cynghorydd Menna Trenholme wrth golwg360.

“Mae’n bwysig i ni gael profiad bywyd pobol go iawn fel ein bod ni’n gallu gwneud hwn yn iawn, fel bod e’n deg i drigolion Gwynedd.

“Mae’n bwysig i ni fel Cyngor i gael profiad bywyd go iawn fel ein bod ni’n gallu dod i ddeall y rhwystredigaethau sy’n wynebu ein trigolion, a hefyd beth sydd angen i ni fel Cyngor wella arno.

“O ran ein bod ni’n cael barn y trigolion, byddwn ni’n cael gwell dealltwriaeth o sut mae profiad yn amrywio o un ardal i’r llall, er enghraifft os ydy rhywun yn byw mewn ardal fwy gwledig i gymharu â’r dref.

“Mae Gwynedd mor fawr, a chymaint o amrywiaeth gwahanol o ran ardaloedd.

“Wrth gael pawb o fewn y sir neu wahanol bobol o wahanol ardaloedd, mae’n rhoi llawer gwell dealltwriaeth i ni o sut mae pethau yn un ardal i gymharu â’r llall.

“Byddan ni’n gallu deall yn iawn beth sydd yn iawn i’r unigolion yma, sy’n ein galluogi ni wedyn i weithio’n fwy effeithiol.

“Byddwn yn edrych ar farn trigolion yn yr arolygiad yma, law yn llaw â ffynonellau data amrywiol ac wedyn byddan ni’n mynd ati i ffurfio beth sydd yn bosib.

“Mae’r tîm cydraddoldeb hefyd wedi bod yn gwneud gwaith ymgysylltu a mynd o gwmpas grwpiau penodol, efallai rhai fyddai ddim fel arfer yn llenwi’r ffurflen.

“Maen nhw wedi bod yn siarad â grŵp hunan-eiriolaeth a gofalwyr, ac wedi cael mewn i’r siop ‘galwch acw’ yng Nghaernarfon hefyd.

“Mae’n bwysig i ni gael profiad bywyd go iawn, fel ein bod ni’n gallu mynd ati wedyn i wneud y gwaith yn dilyn yr ymgynghoriad.”

‘Nodweddion gan bawb’

Mae pawb yn gallu cael eu heffeithio gan rwystrau oherwydd eu nodweddion, ac yn aml mae gan bobol fwy nag un o’r nodweddion hynny, felly cyfle cyfartal yw nod Cyngor Gwynedd.

“Mae pob un ohonon ni gyda nodweddion, felly mae’n bwysig i gael barn pawb o ran amcanion cydraddoldeb oherwydd ei fod yn berthnasol i ni gyd,” meddai’r cynghorydd wedyn.

“Dydyn ni byth yn gwybod pryd rydyn ni neu’n teuluoedd yn cael eu heffeithio gyda hyn.

“Hefyd, mae gyda ti groestoriad a gorgyffwrdd hefyd.

“Dwed efallai bo ti’n dlawd ac yn ferch, mae rhai unigolion â mwy nag un nodwedd – er enghraifft, os wyt ti’n ifanc, du a hoyw.

“Mae rhaid i ni gofio bod pobol yn wynebu rhwystrau gwahanol, ac wrth godi ymwybyddiaeth rydym yn gobeithio y bydd mwy o gyfleoedd cyfartal allan yna i bawb.

“O hyn wedyn, mae dyletswydd arnon ni, hynny ydy o fod yn codi ymwybyddiaeth am y rhwystrau a’n bod ni i gyd efo cyfleoedd cyfartal, oherwydd rydym i gyd efo nodweddion gwahanol.

“Mae’n effeithio arnom i gyd.”

Amcanion

Ar hyn o bryd, mae pum amcan ond mae’r rhain yn agored i gael eu newid neu ddatblygu.

Gyda chyfnod Covid-19, mae’r sefyllfa wedi newid ac efallai y bydd yr amcanion newydd yn adlewyrchu’r cyfnod newydd.

“O ran yr amcanion, maen nhw’n flaenoriaethau sydd yn mynd gyda rhai Llywodraeth Cymru, ond wedi dweud hynny maen nhw’n flaenoriaethau sydd ddigon agored ac mae’n bosib ychwanegu atyn nhw a datblygu,” meddai wedyn.

“Rydyn ni’n cadw meddwl agored, ac rydym eisiau i bobol wybod hynny gan ein bod yn barod i ddatblygu.

“Does dim rhaid mynd gyda’r pump sydd yna’n barod, oherwydd mae pethau wedi newid gymaint dros y blynyddoedd diwethaf.

“Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr bod yr amcanion sydd gyda ni’n addas ar gyfer y cyfnod yma, a hefyd eu bod nhw’n berthnasol i bawb.

“Mae gymaint o bethau wedi digwydd o ran Covid a bob dim.

“Mae rhaid i ni gadw meddwl agored, fel ein bod ni yn gallu addasu ac fel bod pobol yn gwybod bo nhw ddim yn set in stone.

“Wrth ddilyn yr ymgynghoriad yma, byddwn yn mynd ati i’w gwneud nhw’n iawn.”


Sut mae lleisio barn

Gall trigolion Gwynedd leisio barn mewn amryw o ffyrdd:

www.gwynedd.llyw.cymru/HoliadurCynllunCydraddoldeb

I dderbyn copi papur o’r holiadur drwy’r post, neu mewn iaith neu fformat arall, ffoniwch 01286 679708 neu ebostiwch: cydraddoldeb@gwynedd.llyw.cymru

Mae copïau papur ar gael hefyd yn Llyfrgelloedd Gwynedd a Siopau Gwynedd (Pwllheli, Caernarfon a Dolgellau).

Mae trefniadau wedi yn cael eu gwneud gan y Cyngor i gysylltu â grwpiau cydraddoldeb lleol.

Os ydych yn aelod o grŵp o’r fath ac os hoffech chi i Swyddog o’r Cyngor ddod i’ch cyfarfod i egluro mwy, cysylltwch â cydraddoldeb@gwynedd.llyw.cymru / 01286 679708.