Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu swydd gohebydd yn y Senedd, fel rhan o brosiect peilot newydd fydd yn rhedeg am ddeuddeg mis.
Amcan y rôl yw cynhyrchu 25 i 40 o straeon newyddion bob mis i’w defnyddio gan amryw o wefannau newyddion.
Bydd disgwyl i’r gohebydd dreulio pedwar diwrnod yr wythnos yn y Senedd, a’r diwrnod arall yn swyddfa’r Caerphilly Observer, sydd eisoes yn ddeiliad cytundeb ar gyfer gohebwyr y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol yn ardaloedd Caerffili a Chasnewydd.
Mae gohebwyr y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol yn cael eu hariannu gan y BBC, ac yn canolbwyntio ar ohebu ar yr hyn sy’n digwydd yn y cynghorau lleol.
Bydd y gohebydd newydd yn cyflawni rôl debyg, wrth ganolbwyntio ar faterion sydd yn digwydd yn y Senedd.
Bydd y Llywodraeth yn darparu £36,500 er mwyn cyflogi a thalu costau ychwanegol y gohebydd.
Er hynny, mae Richard Gurner, golygydd y Caerphilly Observer, yn dweud y bydd y cynnwys yn olygyddol annibynnol oddi wrth y Llywodraeth.
‘Buddsoddi mewn democratiaeth’
Mae Heledd Fychan, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, wedi croesawu’r “buddsoddiad ychwanegol yma yn ein seilwaith democratiaeth”.
“Wrth gwrs, mae rhoi cymorth ariannol i’r cyfryngau yn ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio, ac yn benodol fe ymrwymon ni i ddarparu buddsoddiad ychwanegol i ddatblygu mentrau sydd eisoes yn bod, a mentrau newydd,” meddai.
Fodd bynnag, dywed nad yw cyflogi un gohebydd yn unig “am unioni’r bwlch yma sydd yn ein democratiaeth”.
Dywed hefyd fod y fframwaith darlledu yng Nghymru yn annigonol ynddo’i hun, a bod angen ei ddatganoli.
Cyfeiria at arolwg a wnaed yn ddiweddar, oedd wedi canfod nad oedd 78% o’r ymatebwyr yn gallu enwi un polisi oedd wedi’i gyflwyno yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Dwi’n meddwl bod yn rhaid inni edrych hefyd bod y cyfraniad bychan ac ymarferol yma yn bwysig o ran sicrhau bod dinasyddion Cymru yn deall beth mae’r Senedd hon yn ei wneud, a pha blaid sydd mewn grym, a’u bod nhw’n deall eu bod nhw hefyd efo rôl i ddal cynrychiolwyr i gyfrif,” meddai.
Mae cyflwyno gohebydd Senedd hefyd wedi cael ei gefnogi gan Mike Hedges, Aelod Llafur o’r Senedd.
“Yn gyffredinol, mae’r cyfryngau ysgrifenedig, ar-lein ac ar bapur yn rhoi sylw gwael iawn i drafodion y Senedd,” meddai.
‘Newyddion drwg i ddemocratiaeth’
Fodd bynnag, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi gwrthwynebu’r prosiect.
Dywed Tom Giffard, eu llefarydd Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, ei fod yn “newyddion drwg i ddemocratiaeth”.
“Mae’r syniad, er bod swydd y newyddiadurwr hwn yn dibynnu’n llwyr ar gyllid gan Lywodraeth Cymru, na fyddai unrhyw ddylanwad anuniongyrchol ar straeon yn ymddangos yn anghynaladwy,” meddai.
Fodd bynnag, dywed Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, mai “nonsens” yw hyn.
“Gallaf ddeall pam y mae’r Torïaid eisiau gwrthsefyll hyn, oherwydd gallaf ddeall nad ydych am weld craffu ar y nonsens yr ydych yn ei lefaru’n aml yn y Siambr hon,” meddai.
“Ond gadewch i ni fod yn glir: mae Llywodraeth Cymru yn croesawu unrhyw graffu ychwanegol, dydyn ni ddim yn ofni craffu ychwanegol, ac rydym yn croesawu’r math hwn o adrodd ar ddemocratiaeth, fydd yn gwneud llawer mwy i’n democratiaeth nag yr ydym wedi’i weld hyd yn hyn.
“Bydd y cynnwys ar gael i bob cyhoeddiad gyhoeddi newyddion ledled Cymru, gyda’r cyfrifoldeb am gyfieithu yn eistedd gyda’r cyhoeddiad sy’n ei dderbyn.”