Mae Mick Antoniw, Cwnseler Cyffredinol a Gweinidog Cyfansoddiad Llywodraeth Cymru, wedi beirniadu agwedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig at ddatganoli.
Dywed nad yw’r setliad datganoli erioed wedi bod o dan gymaint o straen, a chyfeiriodd at achosion lle mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi mynd yn erbyn Confensiwn Sewel.
Yn ôl Confensiwn Sewel, ddylai Senedd y Deyrnas Unedig ddim deddfu ar faterion datganoledig heb gydsyniad y seneddau datganoledig perthnasol.
Fodd bynnag, dros y blynyddoedd diwethaf, mae Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig, y Ddeddf Cymwysterau Proffesiynol a’r Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau wedi dod i rym heb gydsyniad Senedd Cymru.
Dywed fod Senedd Cymru hefyd wedi pleidleisio dros wrthod cydsyniad ar gyfer Bil Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a Ddargedwir, a’r Bil Mudo Anghyfreithlon dros y misoedd diwethaf.
Er hynny, mae’r ddau fil yn destun proses ddeddfwriaethol ar hyn o bryd.
Mynegodd Mick Antoniw ei bryderon cyn iddo draddodi araith yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas y Bar ar gyfer Cyfraith Gyfansoddiadol a Gweinyddol.
Daeth ei sylwadau union 24 mlynedd ers i Gynulliad Cenedlaethol Cymru – Senedd Cymru erbyn hyn – gael ei sefydlu.
‘Yn fwriadol yn tanseilio’r seneddau’
“Er ein hymdrechion ni i weithio ar y cyd, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dewis arddel agwedd ganolog, unochrog a dinistriol tuag at y setliad datganoli,” meddai Mick Antoniw.
“Droeon, maen nhw wedi bwrw ymlaen â deddfwriaeth mewn meysydd datganoledig heb gydsyniad Senedd Cymru.
“Wrth wneud hynny, maen nhw’n amharchu corff sydd wedi’i ethol yn ddemocrataidd, ac yn atal y bobol wnaeth ethol ei aelodau rhag cael atebolrwydd.”
Dywed nad yw’r setliad datganoli erioed wedi gweld y “fath straen” ag y mae’n ei wynebu nawr, yn ystod y 24 mlynedd ers ei sefydliad.
“Ac mae’r cyfansoddiad dan straen mewn ffyrdd eraill heblaw am yr ymosodiadau hyn ar y setliad datganoli,” meddai.
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn fwriadol yn tanseilio seneddau a’r llysoedd, sefydliadau sy’n gwneud gwaith hanfodol o ran craffu, gwirio a chadw cydbwysedd”.
‘Dyletswydd i barchu’r cyfansoddiad’
Ychwanega Mick Antoniw fod rhyddid sifil hefyd “dan warchae”, wedi i ryw 14,000 o bobol gael eu troi i ffwrdd o orsafoedd pleidleisio yn etholiadau lleol Lloegr oherwydd y gofyniad i gyflwyno cardiau adnabod.
“Dydy parhau â phethau fel ag y maen nhw ddim yn opsiwn, ac mae’r sylfeini ar gyfer diwygio eisoes wedi’u sefydlu,” meddai.
“Nododd y Comisiwn ar Ddyfodol y Deyrnas Unedig, gafodd ei gadeirio gan Gordon Brown, gyfres o gynigion radical tua diwedd y llynedd ar gyfer diwygio cyfansoddiadol – gan gynnwys ail-lunio Confensiwn Sewel mewn ffordd newydd sy’n rhoi grym cyfreithiol iddo.”
Erbyn diwedd y flwyddyn hon, meddai, mae’n disgwyl y bydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru wedi cyhoeddi eu hadroddiad terfynol.
“Mae’n ddyletswydd ar bob gwleidydd i adeiladu ar y sylfeini hyn, gwrando ar farn y bobol rydyn ni’n eu gwasanaethu, parchu’r cyfansoddiad a sicrhau bod gennym strwythurau wedi’u diwygio sy’n gallu gwella canlyniadau a chryfhau cymunedau.”