Mae un o gynghorau sir Cymru wedi ymateb yn chwyrn i honiadau eu bod nhw wedi bod yn codi gormod o arian ar drigolion, ar ôl iddyn nhw gofnodi tanwariant am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Clywodd pwyllgor gwaith Cyngor Ynys Môn ddydd Mercher (Mehefin 28) fod y sefyllfa ariannol ar gyfer 2022-23 – gan gynnwys cyllid corfforaethol a chronfa Treth y Cyngor – ar y cyfan yn dangos rhagolwg o danwariant o £1.2m.

Roedd y Cyngor, sy’n cael ei reoli gan Blaid Cymru, wedi wynebu beirniadaeth gan wrthwynebwyr gwleidyddol yn ystod cyfarfod y pwyllgor craffu.

Yn ôl y Cynghorydd Aled Morris Jones, cynghorydd y Democratiaid Rhyddfrydol ac arweinydd grŵp yr wrthblaid, fod y tanwariant yn cyfateb i £10.2m – ar y cyd â’r £1.2m, yn ogystal â’r £4.8m yn 2021-22 a £4.2m yn 2020-21.

“Maen nhw wedi bod yn codi gormod ar bobol Ynys Môn ers blynyddoedd,” meddai.

“Mi ddylen nhw eu had-dalu nhw.”

‘Penderfyniadau cytbwys’

Ond mae’r Cyngor wedi amddiffyn eu hunain yn gadarn, gan nodi blynyddoedd o “newid, gofynion ac ansicrwydd di-gynsail” sydd wedi cael effaith ar eu sefyllfa ariannol.

Roedd y rheiny’n cynnwys cyfnodau clo Covid-19, yr argyfwng costau byw a’r gwrthdaro yn Wcráin.

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, y dirprwy arweinydd a deilydd y portffolio cyllid, mai dim ond oherwydd “penderfyniadau cytbwys” y Cyngor mae modd cynnal gwasanaethau.

Roedd eu penderfyniadau wedi rhoi’r Cyngor yn “y sefyllfa orau bosib” i ateb heriau parhaus a heriau’r dyfodol, meddai.

Bellach, mae’r ffrae wedi cymell Marc Jones, Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) Ynys Môn, i roi dadansoddiad llawn o sefyllfa’r Cyngor.

Dywedodd fod gan y Cyngor “ddyletswydd gyfreithiol” ar ddechrau pob blwyddyn ariannol i lunio rhagfynediad o gyllideb ar gyfer y flwyddyn ddilynol, wedi’i ariannu drwy Grant Cymorth Refeniw gan Lywodraeth Cymru, cyfran o’r Gronfa Ardrethi Annomestig, Treth y Cyngor a’r defnydd o arian wrth gefn y Cyngor eu hunain.

“Mae’r broses yn cychwyn oddeutu mis Medi, yn y flwyddyn cyn y flwyddyn ariannol i ddod, ac yn dod i ben efo bwriad y Cyngor i dderbyn y gyllideb a thâl Treth y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod ym mis Mawrth,” meddai.

“Yna, mae’r gyllideb ar gyfer y cyfnod o Ebrill 1 i Fawrth 31.”

“Cyn Covid, pan oedd chwyddiant yn isel, gallai’r broses hon asesu’n deg lefel y galw a’r chwyddiant cyflogau a phrisiau ar gyfer y flwyddyn i ddod, ac er bod y Cyngor wedi gorwario neu danwario yn ystod y blynyddoedd hyn, roedd y gwahaniaeth ar y cyfan rhwng y gyllideb a’r gwariant net go iawn ar gyfer y tair blynedd rhwng 2017-18 a 2019-20 yn £95,000 o gyllideb gyfartalog o ryw £130m.”

Y sefyllfa wedi “newid yn sylweddol”

Fe wnaeth y sefyllfa “newid yn sylweddol”, meddai.

“Yn 2020-21, cafodd y gyllideb o £142.1m ei gosod cyn cyfnod clo Covid, gyda chynnydd o 4.5% yn Nhreth y Cyngor.

“Fe wnaeth y cyfnod clo newid gwasanaethau’r Cyngor yn sylweddol yn ystod y flwyddyn honno.

“Arweiniodd y cyfnodau clo at gau ysgolion, canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac ati.

“Bu’n rhaid i’r Cyngor gwtogi gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion a phlant hefyd.

“Fe wnaeth yr holl newidiadau hyn effeithio ar wariant.

“Yn ogystal, derbyniodd y Cyngor dros £8m o arian cymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

“Arweiniodd y newidiadau hyn at adroddiad gan y Cyngor o danwariant o £4.2m (3% yn llai na’r gyllideb) yn ystod y flwyddyn ariannol honno, gyda’r arian hyn yn cynyddu lefel mantolen gyffredinol y Cyngor.

“Roedd y lefel yma o danwariant yn adlewyrchu’r sefyllfa gafodd ei hadrodd gan y 21 Awdurdod Lleol arall.

“Yn 2021-22, £147.4m oedd y gyllideb, gyda chynnydd o 2.75% yn Nhreth y Cyngor.

“Y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn oedd tanwariant o £4.8m (3.2% yn is na’r gyllideb).

“Arweiniodd effaith barhaus Covid at yr holl wasanaethau’n adrodd am lefel o danwariant, unwaith eto o ganlyniad i lai o weithgarwch yn ystod gwanwyn a haf 2021.

“Unwaith eto, darparodd Llywodraeth Cymru gyllid grant Covid ychwanegol o £6.1m a grant Cymorth Refeniw ychwanegol o £1.4m.

“Ni ellid fod wedi rhagweld effaith barhaus Covid a lefel y gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru pan gafodd y gyllideb ei gosod fis Mawrth 2021.

“Unwaith eto, roedd sefyllfa Ynys Môn yn debyg i’r canlyniadau ariannol gafodd eu hadrodd gan y 21 Awdurdod Lleol arall.”

2022-23

Wrth ddisgrifio’r darlun yn 2022-23, dywedodd fod “y gyllideb wedi’i gosod ar £158.4m gyda Threth y Cyngor yn cynyddu gan 2%”.

“Unwaith eto, roedd gosod cyllideb yn anodd, o ystyried bod dod allan o’r cyfnod Covid yn cynyddu’r galw am wasanaethau’r Cyngor, oedd yn rhaid ei ragfynegi pan gafodd y gyllideb ei gosod.

“Roedd y rhyfel yn Wcráin a’r argyfwng costau byw yn dechrau cael effaith ar gostau a chyflogau, ac unwaith eto roedd yn rhaid ystyried y rhain yn y gyllideb pan gafodd ei gosod fis Mawrth 2022, yn fuan ar ôl i’r rhyfel ddechrau yn Wcráin.

“Y sefyllfa derfynol gafodd ei hadrodd oedd tanwariant o £1.2m (0.76%).

“Mae’r lefel o amrywiaeth o fewn y lefelau disgwyliedig arferol, ac roedd hynny o ganlyniad i’r arian grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, lefelau uwch o incwm na fyddan nhw’n cael eu cynnal, swyddi gwag oherwydd anawsterau wrth recriwtio, a’r defnydd o arian wrth gefn oedd wedi’i glustnodi.

“Effaith net y tair blynedd hyn oedd ychwanegu £10.2m at fantolen gyffredinol y Cyngor, ac roedd lefel y fantolen wedi codi o £7m fis Ebrill 2020 i’w lefel bresennol o £14m ar Fawrth 31, 2023.

“Roedd y cynnydd hwn wedi galluogi’r Cyngor i gynyddu’r gyllideb refeniw net gan 10% i adlewyrchu’r cynnydd sylweddol mewn cyflogau a phrisiau, ond fe gynyddodd Treth y Cyngor gan ddim ond 5%, ar ôl defnyddio £3.8m o arian wrth gefn y Cyngor i gydbwyso’r gyllideb.

“Pe na bai’r arian wrth gefn wedi bod ar gael, yna byddai’r cynnydd yn Nhreth y Cyngor wedi bod dros 10%.

“Dylid nodi hefyd mai Treth Gyngor Ynys Môn ar gyfer 2023-24 yw’r chweched isaf yng Nghymru, yr isaf yng ngogledd Cymru, ac mae £106 yn is na’r cyfartaledd yng Nghymru ar gyfer eiddo Band D.”

2024-25

“Mae’r Cyngor yn wynebu cynnydd sylweddol mewn costau yn 2024-25, a dydyn ni ddim yn disgwyl y bydd arian Llywodraeth Cymru’n ddigonol i ateb yr holl gynnydd mewn costau, ac er ei bod hi’n gynnar iawn yn y broses gyllido, mae posibilrwydd unwaith eto y bydd yn rhaid i’r Cyngor ddefnyddio’u harian wrth gefn er mwyn gosod cyllideb gytbwys,” meddai wedyn.

“I gloi, roedd y blynyddoedd ariannol 2020-21 a 2021-22 yn flynyddoedd eithriadol, ac fe wnaethon nhw gryfhau sefyllfa ariannol y Cyngor gan alluogi’r Cyngor i ostwng y cynnydd yn Nhreth y Cyngor yn 2023-24, ac i gadw hyn fel opsiwn ar gyfer 2024-25.

“Mae’r Cyngor yn deall yr anawsterau ariannol sy’n wynebu ein trigolion, ac yn ceisio sicrhau bod gwasanaethau’n parhau i gael eu hariannu, tra’n peidio cynyddu Treth y Cyngor yn ormodol, sy’n her sylweddol yn y sefyllfa ariannol bresennol.

“Dydy’r Cyngor ddim yn cytuno â sylwadau arweinydd yr wrthblaid gafodd eu gwneud yn y Pwyllgor Craffu.”

‘Y sefyllfa orau bosib’

“Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi gweld newid, gofynion ac ansicrwydd di-gynsail,” meddai’r Cynghorydd Robin Williams.

“Mae’r rhain yn parhau.

“Er gwaetha’r tanwariant, rydym yn credu bod penderfyniadau cytbwys wedi’u gwneud er mwyn cynnal darpariaeth gwasanaethau ac i roi’r Cyngor yn y sefyllfa orau bosib i ymateb i heriau’r presennol a’r dyfodol.”