Mae nifer y bobl sy’n ddi-waith wedi gostwng i’w lefel isaf ers bron i wyth mlynedd ac mae’r nifer uchaf erioed mewn gwaith, yn ôl y ffigurau diweddaraf.

Roedd nifer y di-waith wedi gostwng 99,000 yn y tri mis hyd at fis Tachwedd i 1.6 miliwn.

Yng Nghymru bu gostyngiad o 11,000 yn nifer y bobl sy’n ddi-waith, sef 82,000 neu 5.5% o’r boblogaeth.

Ni fydd effaith y diswyddiadau diweddar yn y diwydiant dur – gan gynnwys 750 ym Mhort Talbot – yn cael effaith ar y ffigurau am rai misoedd.

Fe gyhoeddodd Tata ar ddechrau’r wythnos ei fod yn cael gwared a 1,000 o swyddi tra bod Sheffield Forgemasters wedi cyhoeddi heddiw bod 100 o swyddi’n diflannu o’u gweithlu o 700.

Yn ôl ffigurau swyddogol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) roedd diweithdra wedi gostwng 239,000 dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae nifer y rhai sy’n hawlio budd-dal chwilio am waith hefyd wedi gostwng – 4,300 fis diwethaf i 785,900 – y ffigwr isaf ers mis Mawrth 2008.

Mae nifer y bobl sydd mewn gwaith wedi cyrraedd 31.3 miliwn sef 74%, cynnydd o fwy na hanner miliwn yn y flwyddyn ddiwethaf.

‘Heriau’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Cymru wedi gweld y gostyngiad mwyaf – 22,000 – yn nifer y di-waith unrhyw le yn y DU.

“Serch hynny mae cyhoeddiad Tata yr wythnos hon wedi ein hatgoffa o’r heriau sy’n wynebu Cymru a’r farchnad ryngwladol.

“Yn ddiweddarach fe fydd y Gweinidog Busnes yn cadeirio tasglu a fydd yn llunio cynllun gweithredu i gefnogi’r gweithlu a’r busnesau lleol.

“Fe fyddwn yn parhau i weithio’n ddiflino i ddarparu cefnogaeth yn ystod y cyfnod heriol yma.”