Mae’r Swyddfa Gartref wedi gorchymyn adolygiad brys o gartrefi ceiswyr lloches yng ngogledd-ddwyrain Lloegr yn dilyn honiadau bod eu drysau coch yn cael eu hadnabod gan fandaliaid a grwpiau hiliol.

Yn ôl adroddiadau, mae’r cartrefi yn Middlesbrough, y mae Jomast, is-gontractwr G4S, yn berchen arnynt, wedi cael eu peintio’n goch fel bod staff yn gwybod ym mha dai mae’r ceiswyr lloches.

Dywedodd y ffoaduriaid o Syria a dwyrain Ewrop wrth The Times eu bod wedi cael eu targedu, ac yn ôl un ddynes, roedd y “hwliganiaid” wedi ei galw yn “fenyw frwnt” ac wedi dweud wrthi am adael y wlad.

Dywedodd un arall fod logo’r Ffrynt Cenedlaethol wedi’i naddu yn eu drws ffrynt coch.

Mae Jomast a G4S wedi gwadu’r honiad bod y lliw wedi cael ei ddefnyddio’n bwrpasol, ond roedden wedi cydnabod bod ‘y mwyafrif’ o’r drysau yn y stoc tai yn goch.

‘Disgwyl y safonau gorau’

“Rwy’n bryderus iawn am y mater hwn ac rwyf wedi comisiynu archwiliad brys o dai ceiswyr lloches yn y Gogledd-ddwyrain,” meddai James Brokenshire, y gweinidog mewnfudo.

“Rwy’n disgwyl y safonau gorau gan ein contractwyr. Os byddwn yn canfod unrhyw dystiolaeth o wahaniaethu yn erbyn ceiswyr lloches, byddwn yn mynd i’r afael â hynny yn syth gan na fydd ymddygiad o’r fath yn cael ei ganiatáu.”

Yn ôl ymchwiliad The Times, o’r 168 o dai Jomast yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Middlesbrough, roedd gan 155 ddrysau coch.

Bu’r papur newydd yn siarad â phobol oedd yn byw yn 66 o’r tai â drysau coch, ac roedd 62 ohonynt yn gartrefi i geiswyr lloches o 22 o wledydd.

G4S sydd â chytundeb gan y Swyddfa Gartref i leoli ceiswyr lloches mewn tai yn y Gogledd-ddwyrain.

Dywedodd fod Jomast wedi cytuno i ail-beintio drysau ffrynt y tai yn yr ardal fel nad oes lliw arbennig iddyn nhw.