Bydd Bil Amaethyddiaeth Cymru yn cael ei drafod am y tro olaf yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 20), wrth i NFU Cymru lansio adroddiad ym Mae Caerdydd sy’n amlinellu blaenoriaethau polisi ar gyfer ffermwyr ifanc Cymru.

Bwriad yr adroddiad, ‘Fframio’r dyfodol ar gyfer y genhedlaeth nesaf’, yw ceisio sicrhau dyfodol disglair i’r diwydiant yng Nghymru, yn ôl NFU Cymru.

Mae’r digwyddiad lansio yn rhan o weithgareddau NFU Cymru ac Wythnos Dathlu Bwyd a Ffermio Cymreig, sef ymgyrch ragweithiol gyda’r nod o hyrwyddo popeth sy’n “wych” am Gymru, gan gynnwys bwyd, amaethyddiaeth, gwleidyddion, rhanddeiliaid a’r cyhoedd yn gyffredinol.

Ar ôl i’r bil gael ei basio, bydd y Ddeddf Amaethyddiaeth yn sefydlu’r fframwaith ar gyfer polisi amaethyddol yn y dyfodol, ac yn diffinio ffermio yng Nghymru am genhedlaeth neu fwy.

Argymhellion

Mae’r adroddiad yn dathlu cyfraniad ffermwyr ifanc yng Nghymru, ac mae’n cynnwys argymhellion ynghylch sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr yng Nghymru.

Dyma’r argymhellion y bydd gofyn i’r Llywodraeth eu dilyn:

  • gofynion penodol gan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy sydd ar y gweill mewn perthynas â chefnogi’r ffermwr gweithredol, cael trosglwyddiad didrafferth a defnyddio grantiau cyfalaf
  • ystyried cyfleoedd i’w gwneud yn haws i newydd-ddyfodiaid a ffermwyr ifanc gael gafael ar gyllid
  • blaenoriaethu bwyd sydd wedi’i gynhyrchu’n lleol, a chaffael cyhoeddus
  • awdurdodau lleol yn cydnabod pwysigrwydd rhwydwaith ffermydd y cyngor
  • sicrhau bod ffermio yng Nghymru’n cael ei bortreadu’n gywir yng nghwricwlwm ysgolion a bod plant yn cael y cyfle i ddarganfod o ble daw eu bwyd.

Er mwyn dangos rhai o’r problemau sy’n effeithio ar ffermwyr ifanc yng Nghymru, mae’r adroddiad newydd yn cynnwys proffiliau astudiaethau achos o bedwar aelod o Grŵp Cenhedlaeth Nesaf NFU Cymru.

Mae hefyd yn ceisio rhoi goleuni ar yr heriau sydd wedi wynebu ffermwyr.

Bydd y digwyddiad lansio hefyd yn rhoi cyfle i aelodau o Grŵp Cenhedlaeth Nesaf NFU Cymru adrodd eu taith nhw yn y byd amaethyddol i Aelodau’r Senedd.

‘Pobol ifanc yw agswrn cefn y sector’

Wrth siarad yn y digwyddiad heddiw, mae disgwyl i Aled Jones, Llywydd NFU Cymru ddweud: “Fel ceidwaid cefn gwlad, mae pob cenhedlaeth o ffermwyr yn dymuno gadael eu fferm mewn gwell sefyllfa i’r genhedlaeth nesaf.

“Mae gennym sector ffermio gyfoethog ac amrywiol yma yng Nghymru, a phobol ifanc yw asgwrn cefn y sector hwnnw.

“Mae ein cenhedlaeth nesaf o ffermwyr eisiau manteisio ar gyfleoedd i ehangu ein sector a chynyddu ein cyfran ni o’r cynnyrch sy’n cael ei ddefnyddio yma yng Nghymru ac sy’n cael ei ddefnyddio gan sectorau adwerthu a gwasanaethau bwyd y DU, yn ogystal ag ehangu ein cyrhaeddiad mewn marchnadoedd allforio.

“Maen nhw hefyd eisiau cynyddu cyfran y bwydydd o Gymru sy’n cael eu caffael gan ein hysgolion, ein hysbytai a’r sector cyhoeddus yn ehangach.

“Maen nhw’n uchelgeisiol ar gyfer dyfodol bwydydd a diodydd o Gymru.

“Mae’n hanfodol bod y cyd-destun polisi yn y dyfodol yn gweithio i’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr ac mae hynny’n golygu bod yn rhaid iddo fod yn hygyrch ac yn gyraeddadwy i bawb, ni waeth beth yw math y fferm, y ddaliadaeth na’r lleoliad.

“Os mai darparu ar gyfer ein cenhedlaeth nesaf o ffermwyr a phobol Cymru yw ein polisi ffermio yn y dyfodol, rhaid iddo fod yn seiliedig ar fframweithiau ariannol hirdymor.

“Ffermwyr yw calon ein cymunedau gwledig, a rhaid sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o ffermwyr yn gweld dyfodol hyfyw yn ein diwydiant er mwyn gwarchod yr iaith, y diwylliant a’r dreftadaeth gyfoethog sydd gennym yma yng Nghymru.

“Rwy’n dal yn obeithiol y gallwn gynllunio a gweithredu polisïau sy’n sicrhau bod ffermio yng Nghymru yn gallu ffynnu am genedlaethau i ddod, os bydd Llywodraeth Cymru a’r diwydiant yn cydweithio mewn partneriaeth wirioneddol.

“Dylai’r polisïau hyn alluogi ffermwyr heddiw ac yfory i barhau i ddarparu bwyd fforddiadwy o ansawdd uchel y gellir ei olrhain, yn ogystal â chael manteision economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol ehangach i holl bobol Cymru, gan gyflawni ein huchelgais i sicrhau amaethyddiaeth sero net erbyn 2040.”