Mae dyn gafodd ei fagu yn Hwlffordd wedi’i gadw yn y ddalfa ar ôl bod yn y llys i wynebu cyhuddiadau o lofruddio tri o bobol yn Nottingham.

Aeth Valdo Calocane, sy’n 31 oed, gerbron Llys y Goron Nottingham heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 20) i wynebu cyhuddiadau ei fod e wedi llofruddio tri o bobol ac wedi ceisio llofruddio tri arall.

Mae wedi’i gadw yn y ddalfa, ond dydy e ddim wedi cyflwyno ple hyd yn hyn ac mae disgwyl iddo sefyll ei brawf ar Ionawr 12 y flwyddyn nesaf.

Mae wedi’i gyhuddo o lofruddio Grace O’Malley-Kumar a Barnaby Webber, dau fyfyriwr 19 oed, ac Ian Coates, gofalwr ysgol 65 oed, ar Fehefin 13.

Mae hefyd wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio tri o bobol eraill ar ôl iddyn nhw gael eu taro gan fan, gydag un ohonyn nhw mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.