Mae Lindsay Whittle, arweinydd Grŵp Plaid Cymru yng Nghyngor Caerffili, yn gwrthwynebu cynlluniau i osod ysgol Gymraeg ar yr un safle ag ysgol Saesneg.
Mae Cyngor Caerffili’n awyddus i ddwy ysgol yn Rhymni fod ar yr un safle, ond gallai hyn gael effaith ar y Gymraeg, meddai.
Mae’r cynlluniau’n ymwneud ag Ysgol y Lawnt, ysgol Gymraeg, ac Ysgol Gynradd Rhymni Uchaf, sy’n ysgol Saesneg.
“Yn bersonol, dw i ddim o blaid cymysgu ysgolion dwy iaith wahanol,” meddai.
“Holl bwrpas ysgol Gymraeg yw trochi plant yn yr iaith.
“Bydd hyn yn sicrhau eu bod nhw’n ffynnu yn yr hyn maen nhw’n ei gyflawni.
“Mae’r rhan fwyaf o deuluoedd sy’n dewis i’w plant gael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn siarad Saesneg ar y cyfan.
“Bydd gormod o Saesneg yn eu bywydau pe baen nhw’n cymysgu yn yr ysgol hefyd.
“Dw i’n cael hyn yn rhwygol iawn.”
‘Dim effaith ar y Gymraeg’
Dywed Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili y bydd yr ysgolion yn “aros ar wahân”, ac na fydd “unrhyw effaith ar yr iaith Gymraeg”.
Mae disgwyl i’r datblygiad gostio £17.6m, ac mae’r Cynghorydd Carl Cuss, sy’n cynrychioli Twyn Carno, wedi croesawu’r buddsoddiad yn ei ward.
Bydd y Cyngor yn cyfrannu £6,052,119 o gronfa wrth gwrs, a’u nod yw sicrhau’r £10,730,414 sy’n weddilll drwy raglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer addysg Llywodraeth Cymru.
Er y byddai’r ddwy ysgol mewn un adeilad, mae’r Cyngor yn nodi y byddan nhw’n aros “ar wahân”.
Bydd disgyblion oedran meithrin hyd at 18 oed yn mynd i’r ysgol “fodern a chynaliadwy”.
Mae adroddiad y Cyngor hefyd yn ychwanegu y bydd yr adeilad ar gael at ddefnydd y gymuned.
Does dim cais cynllunio ffurfiol wedi’i gyflwyno ar gyfer y datblygiad hyd yn hyn.
Bydd gofyn i aelodau gefnogi cynigion y Cyngor yng nghyfarfod y pwyllgor craffu ar addysg heno (nos Fawrth, Mehefin 20).