Bydd dylanwadwyr ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n hanu o dde Cymru a Bryste yn cael eu defnyddio i hyrwyddo Torfaen fel ardal i dwristiaid.

Mae’r Cyngor Bwrdeistref Sirol wedi cymeradwyo cefnogi’r cynllun, sydd wedi’i lunio gan Gymdeithas Dwristiaeth Torfaen, ar gost o £18,500 tra bo’r grŵp busnes hefyd yn casglu £1,500 gan gynghorau lleol a £1,000 gan ei sefydliadau ei hun sy’n aelodau.

Yn ogystal â gofyn i ddeiliaid cyfrifon cyfryngau cymdeithasol blaenllaw i hyrwyddo’r ardal, bydd yr ymgyrch hefyd yn cynnwys map “cwyrci” sydd wedi’i ddylunio gan artist ac a fydd yn grwpio cyrchfannau lleol yn llwybrau y bydd modd eu dilyn o fewn diwrnod.

Yn ogystal â chael ei hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol a bod ar gael i fusnesau a grwpiau eraill i’w rhannu ar-lein, bydd taflenni â map yn cael eu hargraffu a’u dosbarthu yn Nhorfaen a ledled y de, a bydd fersiynau mwy o faint yn cael eu harddangos ym Mlaenafon, Pont-y-pŵl a Chwmbrân er mwyn cyrraedd trigolion lleol.

Bydd gweithiwr llawrydd yn cael ei gyflogi i redeg yr ymgyrch ac i reoli cyfrif ar y cyfryngau cymdeithasol am ddeg mis, gyda chyfraniad y Cyngor Bwrdeistref yn dod o’r Gronfa Ffyniant a Rennir, sef arian gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n disodli grantiau blaenorol yr Undeb Ewropeaidd.

Mae gan Dorfaen £180,000 o’r gronfa dros ddwy flynedd er mwyn cefnogi’r gwaith o hrwyddo twristiaeth.

Adroddiad

Yn ôl adroddiad gafodd ei baratoi ar gyfer Cyngor Torfaen, bydd cyrchfannau megis safle Treftadaeth y Byd Blaenafon a Chamlas Sir Fynwy a Brycheiniog, ynghyd â Chanolfan Siopa Cwmbrân a siopau arbennig i “ddenu” pobol ym Mhont-y-pŵl a Blaenafon yn cael eu hyrwyddo fel rhan o’r ymgyrch sydd wedi’i anelu at ymwelwyr undydd.

“Mae gan y rhan fwyaf o’r atyniadau hyn amser hyd oes rhwng awr a diwrnod a hanner, ac o adborth y cyrchfan, dydy pobol ddim yn aml yn symud o un atyniad i’r llall fel rhan o’r un profiad,” meddai’r adroddiad.

“Mae hyrwyddo ar y cyd yn ffordd dda o greu cynnig ’diwrnod’ neu ’sawl diwrnod’ ar gyfer ymwelwyr cartref.”

Yr ymgyrch

Nod yr ymgyrch yw cyfleu’r ffaith y gall ymwelwyr “deithio’n hawdd rhwng atyniadau” gan fod Torfaen yn ardal fach, fod y rhan fwyaf ohonyn nhw’n rhad ac am ddim neu’n rhad i ymweld â nhw, a bod “myneidad at ystod eang o siopau a gwasanaethau; ynghyd â nifer cynyddol o lefydd bwyd a diod”.

Fel rhan o’r ymgyrch, bydd hyd at £2,000 yn cael ei neilltuo i dalu dylanwadwyr, ac ar gyfer gweithgarwch arall i’w dalu, i hybu’r ardal i ddilynwyr.

“Byddai darganfod yr ardal yn cael ei hybu i ddylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol o dde Cymru a Bryste – gan eu hannog nhw i ymweld ac i hyrwyddo’u profiadau i’w dilynwyr.”

Fel rhan o fesur perfformiad yr ymgyrch, bydd gofyn i’r corff twristiaeth wirio nifer y bobol sy’n cael mynediad at wefan blog dylanwadwyr, tra bod disgwyl hefyd y bydd cynnydd yn nifer y bobol mewn atyniadau, fydd yn cael ei fonitro.

Bydd yr ymgyrch yn cael ei lansio’n swyddogol yng nghanol tref Cwmbrân y Pasg nesaf, tra mai’r bwriad yw i’r map fod yn barod i’w gymeradwyo yr hydref yma, a bydd yr ymgyrch yn rhedeg hyd at Ragfyr 2024.

Mae disgwyl i’r gwaith ddechrau fis yma, a cahfodd y grant ei gymeradwyo gan y Cynghorydd Joanne Gauden, yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros yr economi.

Yn ôl y Cyngor, fe wnaeth “gwall technegol” olygu nad oedd aelodau’r pwyllgor craffu wedi derbyn e-bost yn eu hysbysu nhw am y cynnig, ac roedd “byrder” yn golygu bod yn rhaid i’r Cynghorydd Joanne Gauden wneud penderfyniad cyn iddyn nhw allu cynnig eu barn.