Mae gwleidyddion o Gymru wedi bod yn ymateb yn dilyn pleidlais yn San Steffan ynghylch yr adroddiad i bartïon yn Downing Street.
Mae aelodau seneddol wedi pleidleisio – o 354 i saith – o blaid derbyn casgliadau adroddiad sy’n dweud bod Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ar y pryd, wedi camarwain y senedd ynghylch partïon gafodd eu cynnal yn ystod y cyfnodau clo.
Fe wnaeth 27 o aelodau seneddol yng Nghymru gefnogi’r adroddiad, ac roedd 14 yn ei wrthwynebu.
Daeth adroddiad pwyllgor seneddol trawsbleidiol i’r casgliad iddo ddrwgweithredu sawl gwaith, ond ei fod yntau’n mynnu nad oedd e wedi gwneud unrhyw beth o’i le ac wedi dilyn y rheolau bob amser.
Er bod gan y Ceidwadwyr bleidlais rydd ar y mater, mae Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi beirniadu Rishi Sunak, y Prif Weinidog presennol, am beidio mynd i fwrw ei bleidlais.
Yn sgil y bleidlais, mae Boris Johnson wedi colli nifer o hawliau, gan gynnwys gallu cael mynediad i gyfleusterau San Steffan.
Ond mae nifer o’i gefnogwyr wedi cwestiynu pa mor ddi-duedd oedd yr adroddiad.
Ychydig o effaith gaiff yr adroddiad, medd rhai, a hynny gan fod Boris Johnson eisoes wedi gadael San Steffan ar ôl rhoi’r gorau i fod yn aelod seneddol.
Doedd dim cofnod ar gyfer 225 o aelodau seneddol yn dilyn y bleidlais, naill ai am eu bod nhw wedi ymatal neu nad oedden nhw yno i fwrw eu pleidlais.
Yn eu plith roedd Rishi Sunak, sy’n gwrthod dweud sut y byddai wedi pleidleisio pe bai e wedi bod yno.
‘Ta-ra Boris Johnson’
Ymhlith y rhai o Gymru sydd wedi ymateb i’r bleidlais mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru, a Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda a chadeirydd y Pwyllgor Safonau yn San Steffan.
“Ta-ra Boris Johnson,” meddai Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor-Meirionydd.
“Rhywfaint o gyfiawnder o’r diwedd.”
Mewn neges bellach, dywedodd fod Plaid Cymru “wedi sefyll i fyny dros atebolrwydd a gonestrwydd neithiwr”.
“Dylai’r wyth AS Torïaidd Cymreig wnaeth ymatal egluro’u gweithredoedd – neu all pleidleiswyr ddim ond dod i’r casgliad eu bod nhw’n gydweithredwyr parod yng ngyrfa’r cyn-Brif Weinidog Johnson o gelwyddau,” meddai.
354 – 7
Ta-ra @BorisJohnson 👋
Rhywfaint o gyfiawnder o’r diwedd. Some justice at last. pic.twitter.com/8GJRoGzPXf
— Liz Saville Roberts (@LSRPlaid) June 19, 2023
‘Ofni adlach’
Yn ôl Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, roedd y Ceidwadwyr wnaeth atal eu pleidlais yn “ofni’r adlach gan gefnogwyr Boris”.
“Ond eto, fe wnaeth Boris lwyddo i dynnu ynghyd cyfanswm mawr o saith aelod seneddol i’w gefnogi,” meddai.
“Wnaeth Rees-Mogg na Dorries hyd yn oed ddim dod allan i’w gefnogi.”
‘Tynnu’r cyfan am ei ben ei hun’
Yn ôl Chris Bryant, does yna’r un gweinidog “heb sôn am Brif Weinidog wedi diodde’r fath gwymp”.
Dywedodd fod y bleidlais yn dangos bod aelodau seneddol yn credu bod Boris Johnson “wedi dweud celwydd droeon ac yn fwriadol wrth y Tŷ, ac wedi cyflawni pum achos o ddirmyg seneddol.
“Fe dynnodd y cyfan am ei ben ei hun,” meddai.