Mae llythyrau a negeseuon gan fwy na 2,000 o aelodau o’r cyhoedd a 350 o sefydliadau wedi’u rhoi i Lywodraeth Cymru yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 20).
Maen nhw’n mynnu gweithredu brys dros natur, ar ôl i adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig nodi bod miliwn o rywogaethau mewn perygl.
Cafodd y digwyddiad ei arwain gan grŵp o bobol ifanc, oedd yn cynnwys Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru, ac roedd yn benllanw misoedd o waith ymgyrchu gan dros 350 o sefydliadau ledled Cymru sy’n dweud bod angen gweithredu ar frys i sefydlu corff gwarchod annibynnol i gyflymu adferiad byd natur.
Yn ystod yr Wythnos Fawr Werdd yr wythnos ddiwethaf, bu Climate Cymru ar daith o amgylch y wlad mewn cerbyd trydan, gan gasglu cannoedd o lythyrau a negeseuon gan gymunedau, plant a phobol ifanc.
‘Pwysig bod gwleidyddion yn clywed’
Dywedodd un neges gan Grace, disgybl Blwyddyn 7 o Ysgol Dinas Brân yn Llangollen, fod “natur yn golygu popeth i mi”.
“Mae’n golygu bywyd, gallu byw’n hapus, peidio â gorfod teimlo pwysau am ein dyfodol, bod yn ddiogel ar ein planed ein hunain, bod yn… ni, a phwy rydyn ni i fod,” meddai.
Mae’n “wych gweld y cynnydd yma yn y gefnogaeth ar draws Cymru i warchod y byd natur”, yn ôl y naturiaethwr a chyflwynydd Iolo Williams.
“Rydan ni i gyd yn gwybod pa mor hanfodol yw hyn i’n hiechyd a’n lles, i ddyfodol ein plant a’n hwyrion, ac i’r rhyfeddod llwyr ohono.
“Nawr, mae angen i Lywodraeth Cymru gymryd y camau gwirioneddol y mae’r ymgyrch hon yn galw amdanyn nhw.
“Mae angen gweithredoedd arnom, nid geiriau yn unig.
“Mae’n bwysig bod gwleidyddion yn clywed ein bod ni’n poeni am natur a faint o gymdeithas sydd eisiau gweld byd natur yn ffynnu.
“Dw i’n cefnogi ymgyrch Climate Cymru i wneud i hynny ddigwydd a gobeithio y gallwch chi, eich busnes, neu grŵp gefnogi hefyd.”
Gwarchod y blaned ar gyfer ein gorwyrion
Fe fu Liliana Snedden, Llysgennad Ieuenctid Cymru, yn darllen y llythyr y tu allan i’r Senedd.
“Roeddwn i eisiau cymryd rhan heddiw i ddweud wrth y Prif Weinidog wrando ar y cannoedd o sefydliadau a phobol yng Nghymru sy’n mynnu gweithredu gwirioneddol drwy basio’r Bil hwn,” meddai.
“Ar ran ieuenctid Cymru heddiw a’r dyfodol, dw i’n pledio ar y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru i weithredu heddiw fel y gallwn ni, a byd natur, gael yr yfory yr ydym yn ei haeddu.
“Dw i yma oherwydd dw i eisiau i fy wyrion a gorwyrion wybod bod y genedl wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i warchod ein planed ar gyfer eu dyfodol.”