Bydd llinell ffôn genedlaethol newydd yn cael ei lansio heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 20) ar gyfer pobol sydd angen cymorth iechyd meddwl brys.
Bydd gwasanaeth ‘111 pwyso 2’ y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar gyfer iechyd meddwl ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos i bobol o bob oedran.
Gall pobol ddefnyddio’r rhif os oes ganddyn nhw bryder iechyd meddwl brys eu hunain neu bryder am rywun maen nhw’n ei adnabod.
Trwy roi mynediad at weithiwr iechyd meddwl proffesiynol, heb fod angen atgyfeiriad gan feddyg teulu, gall helpu i gefnogi pobol i reoli argyfwng iechyd meddwl, meddai Llywodraeth Cymru.
Mae modd cael gafael ar y gwasanaeth drwy ffonio GIG 111, a dewis rhif 2.
£6 miliwn gan Lywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £6m i gefnogi byrddau iechyd i weithredu’r gwasanaeth hwn a sicrhau darpariaeth 24/7.
Bydd galwyr yn cael eu trosglwyddo i aelod penodedig o dîm iechyd meddwl yn ardal eu bwrdd iechyd lleol, a bydd yn cynnwys asesiad o anghenion a thrafodaeth dros y ffôn i leihau gofid.
Lle bo’n briodol, bydd modd cyfeirio unigolion at wasanaethau iechyd meddwl, rhoi cyngor hunanofal neu eu cyfeirio at gymorth arall
.
Mae’r gwasanaeth wedi cael ei gyflwyno ledled Cymru ers mis Tachwedd y llynedd, a hyd yma mae wedi derbyn dros 15,000 o alwadau.
Cafodd problemau’r rhan fwyaf o alwyr eu datrys drwy roi cyngor ar hunanreolaeth neu drwy eu hatgyfeirio at grwpiau trydydd sector lleol, gyda lleiafrif o alwyr yn cael eu hatgyfeirio at wasanaethau gofal iechyd meddwl brys.
Rhan o becyn ehangach
Yr wythnos ddiwethaf, ymwelodd Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, ag Ysbyty Sant Cadog yng Nghaerllion i gwrdd â’r tîm sy’n gweithio ar y gwasanaeth ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
“Rydym wedi ymrwymo i wella iechyd meddwl a mynediad at wasanaethau iechyd meddwl,” meddai Lynne Neagle.
“Bydd gweithredu’r gwasanaeth ‘111 pwyso 2’ ledled Cymru yn trawsnewid y ffordd y mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ymateb i faterion iechyd meddwl brys – a gall unrhyw un gael mynediad ato, ar unrhyw adeg, ac o unrhyw ran o Gymru.
“Rydym yn gwybod bod angen i bobol siarad â gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol weithiau fel y gallant siarad am eu problemau a chael y cymorth cywir p’un a yw hyn yn golygu cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gofal sylfaenol, gwasanaethau gwirfoddol lleol neu gyngor ar hunanofal.
“Mae Llywodraeth Cymru eisiau ei gwneud hi’n haws cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl ac mae’r gwasanaeth hwn yn rhan o becyn ehangach sy’n cynnwys hunangyfeirio at Therapi Gwybyddol Ymddygiadol ar-lein.”
Llwyddiant yng Ngwent
“Rydym bellach wedi bod yn darparu’r gwasanaeth bob awr o bob dydd yng Ngwent ers mis Mawrth ac mae pobol leol wedi dweud wrthym faint maen nhw wedi gwerthfawrogi gallu codi’r ffôn a siarad ag ymarferydd iechyd meddwl hyfforddedig ar adegau o angen,” meddai Dr Chris O’Connor, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
“Byddwn yn annog unrhyw un sydd angen cymorth brys ar gyfer problem iechyd meddwl, neu unrhyw un sy’n poeni am ffrind neu aelod o’r teulu, i ffonio 111 (pwyso 2) a siarad â rhywun sydd yno i wrando, i ddeall y sefyllfa, ac i’ch helpu i gael gafael ar yr help a’r gefnogaeth gywir.”
Ymateb y Ceidwadwyr Cymreig
Wrth ymateb i’r llinell newydd, dywedodd Gweinidog y Ceidwadwyr dros Iechyd Meddwl AS: “Am lawer rhy hir, mae cleifion yng Nghymru sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl wedi teimlo nad oes opsiwn arall heblaw mynd i’r adran damweiniau ac achosion brys neu ddioddef yn dawel adref pan mae cymorth sy’n achub bywyd wedi bod yn bosib yn gyflym dros y ffôn.
“Roedd elusennau wedi llenwi’r bwlch yn flaenorol, ond dw i’n gobeithio bydd y darpariaethau newydd gyda’r gwasanaeth 111 pwyso 2, dw i a fy nghydweithwyr yn y Ceidwadwyr Cymreig yn eu cefnogi, yn helpu i ddarparu’r cymorth a’r gefnogaeth mae’r bobol mewn argyfwng yn fawr ei angen.
“Mae hwn yn un o nifer o fesurau mae’r Llywodraeth Lafur angen ei weithredu os ydyn am os ydym am fynd i’r afael â’r problemau mawr sy’n wynebu gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.”