Yn dilyn llwyddiant arian tebyg dros y blynyddoedd diwethaf, mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi cael cymorth ariannol gan West Wales Holiday Cottages.

Bwriad y fwrsariaeth yw cynnig cyfle gwerth £1,500 i bobol ifanc rhwng 11-25 fedru ymgeisio amdani, i’w helpu gyda’u dyheadau yn y dyfodol.

Ond yn ôl Cymdeithas yr Iaith, fydd y fwrsariaeth newydd ddim yn eu “helpu llawer gyda’r her o sicrhau rhywle i fyw”.

Sut mae gwneud cais?

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 o’r gloch y nos ar Orffennaf 31.

Dylai unrhyw un â diddordeb gysylltu â Gwion Bowen o Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion ar 07790 812939 neu e-bostio Gwion.Bowen@ceredigion.gov.uk am ffurflen gais.

Mae rhagor o wybodaeth ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol y Gwasanaeth Ieuenctid, ac mae modd cysylltu â’r tîm dros e-bost: PorthCymorthCynnar@ceredigion.gov.uk

Mae’r cais, neu geisiadau, llwyddiannus yn cael ei ddewis gan Fforwm Ieuenctid Ceredigion, sef panel o bobol ifanc o bob rhan o Geredigion.

Yn ôl Gwion Bowen, Swyddog Cyfranogi Plant a Phobol Ifanc Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, mae’r cynllun hwn o fudd mawr i bobol ifanc, nawr ac yn y gorffennol, ac maen nhw’n “ddiolchgar iawn ac yn werthfawrogol i West Wales Holiday Cottages am roi’r cyfle hwn i ni ar gyfer pobol ifanc yng Ngheredigion”.

“Fel ein hunain, mae ‘West Wales Holiday Cottages’ yn cydnabod y gall nifer o bobol ifanc sy’n byw yng Ngheredigion brofi anawsterau wrth gael mynediad at hyfforddiant, cefnogaeth a gweithgareddau cymdeithasol oherwydd materion economaidd-gymdeithasol,” meddai.

“Roedd y fwrsariaeth yn hynod o lwyddiannus y llynedd, gyda thri pherson ifanc yn cael cymorth ariannol i’w helpu gyda’u prosiectau.

“Rydym yn gobeithio bydd y fwrsariaeth yn llwyddiant eto eleni, ac y bydd o fudd i berson (pobol) ifanc yng Ngheredigion.”

Dywed y Cynghorydd Wyn Thomas, yr Aelod Cabinet ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ar Gyngor Ceredigion, fod yr arian yn help mawr i bobol ifanc a’r cynllun yn llwyddiannus, a’i fod yn gobeithio y bydd yn tyfu.

“Mae’n grêt i glywed am gyfleoedd fel hyn yng Ngheredigion sy’n galluogi pobol ifanc i ddilyn eu diddordebau a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol,” meddai.

“Cafodd y Gwasanaeth Ieuenctid gryn ddiddordeb y llynedd, ac rwy’n gobeithio y bydd yn derbyn mwy o ddiddordeb y flwyddyn hon.

“Hoffwn i ddymuno’r gorau i bobol ifanc yng Ngheredigion.”

‘Problemau systemig’

Wrth ymateb, dywed Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith a chadeirydd rhanbarth Ceredigion, wrth golwg360 ei bod hi’n “braf” i’r rhai llwyddiannus dderbyn y fwrsariaeth, ond nad yw’n datrys y sefyllfa o ran tai i bobol ifanc y sir.

Ymhellach, mae’n annog y cwmni gwyliau i ystyried eu model busnes, gan ei fod yn ei gwneud hi’n anoddach i bobol ifanc brynu tŷ.

Yr ateb ehangach, meddai, yw Deddf Eiddo.

“Mae’r problemau sy’n wynebu pobol ifanc Ceredigion yn rhai systemig, lle mae cyflogau’n isel ac mae’n anodd iawn cael tai ar y fath gyflog,” meddai.

“Dyna pam mae ein pobol ifanc yn gadael y sir.

“Er bod bwrsari fel hyn wrth gwrs yn braf i’r rhai sy’n ei gael, fydd yr arian ddim yn helpu llawer gyda’r her o sichrau rhywle i fyw.

“Rhan sylweddol o’r broblem yng Ngheredigion yw’r defnydd o dai a fflatiau fel ail dai a llety gwyliau, yn hytrach na fel cartrefi i bobol leol, sy’n gwneud cartrefi yn anfforddiadwy i bobol leol.

“Felly bydden ni’n annog y cwmni i ystyried eu model busnes os am helpu pobol ifanc i gyflawni eu dyheadau, sydd yn aml yn cynnwys cael tŷ ac aros yn yr ardal.

“Ar raddfa fwy, mae angen i Lywodraeth Cymru osod Deddf Eiddo ar frys i reoli’r farchnad dai a sicrhau bod pobol ifanc yn gallu aros yn yr ardal.”