Mae cynllun i helpu trigolion Ynys Môn i ddod o hyd i dai gan ddefnyddio arian premiwm treth gyngor ail dai wedi cael ei gytuno.

Fe wnaeth Pwyllgor Gwaith Cyngor Sir Ynys Môn dderbyn dau argymhelliad mewn perthynas â thai yn ystod eu cyfarfod ddoe (dydd Mawrth, Mai 30).

Cafodd y manylion eu cyflwyno yn yr adroddiad Defnydd o Arian Premiwm Ail Gartrefi gafodd ei lunio gan Elliw Llŷr a’i gyflwyno gan y deilydd portffolio, y Cynghorydd Gary Pritchard, a Ned Michael, y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Roedd un o’r ddau argymhelliad yn cynnwys cytundeb i gynyddu uchafswm y grant er mwyn dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd o £20,000 i £25,000.

Cafodd ei ysgogi gan gydnabyddiaeth gan y Cyngor o’r “cynnydd sylweddol sydd wedi ei weld mewn costau nwyddau adeiladu”, meddai’r adroddiad.

100% yw premiwm ail gartrefi’r ynys ar hyn o bryd ar gyfer tai gwag, a 75% ar ail gartrefi.

Nododd yr adroddiad fod £1.502m o gyllid Premiwm Treth Gyngor ar gael i’w ddyrannu.

Clywodd y cyfarfod fod y Cyngor wedi mabwysiadu polisi ers 2017 sy’n anelu i gefnogi pobol leol.

Roedd yn cynnwys troi eiddo gwag yn gartrefi, a chynnig benthyciadau ecwiti ar gyfer prynwyr tro cyntaf.

Cafodd swm o £170,000 ei ddyrannu ar ddechrau’r cynllun, ac fe gododd i £696,000 erbyn 2022-23.

‘Llwyddiannus’

Roedd y cynllun wedi bod yn “llwyddiannus”, gyda’r gyllideb eleni wedi’i ymrwymo i grantiau sydd wedi’u cymeradwyo neu rai sydd ar y gweill.

Roedd yr adroddiad yn argymell y dylid defnyddio’r cyllid ar gyfer cynlluniau sy’n cynnwys benthyciadau ecwiti a rennir, cynllun ariannu, gan wneud rhent y farchnad agored yn fwy fforddiadwy, a chynllun prynu tai a ‘rhentu’n gyntaf’.

Roedd defnyddio’r arian i gael tai gwag yn ôl i ddefnydd wedi bod yn “llwyddiannus iawn”, ac roedd y Cyngor yn gobeithio darparu mwy o gyllid a chefnogaeth.

Fis Hydref y llynedd, lansiodd y Cyngor Gynllun Prynu Cartref Ynys Môn, gan helpu prynwyr drwy ecwiti a rennir i brynu tai ar y farchnad agored.

Nododd yr adroddiad fod wyth cais gweithredol ar y gweill, bod un asesiad wedi’i gymeradwyo, a bod cais arall ar y gweill, ond fod pedwar cais wedi cael eu tynnu’n ôl – dau oedd wedi methu â sicrhau blaendâl ac un arall yn methu mynd rhagddo.

Roedd yr ymgeiswyr rhwng 21 a 44 oed, ac yn hanu o bob cwr o’r ynys.

Roedd y cynllun wedi bod yn “araf yn dwyn ffrwyth” o ganlyniad i’r hinsawdd economaidd y llynedd, ac “anawsterau” wrth i ymgeiswyr geisio morgais.

Fodd bynnag, roedd y Cyngor bellach yn gweld “pethau’n dechrau symud” ac yn gobeithio y byddai’r pryniant “yn cael ei gwblhau’n fuan”.

Fe wnaeth aelodau gymeradwyo’n ffurfiol “ddefnyddio’r arian sy’n cael ei gynhyrchu trwy’r Premiwm Ail Gartrefi ar gyfer cynlluniau mae sylw iddyn nhw ym mharagraff ‘rhif 10.0’ a “chynyddu’r uchafswm grant ar gyfer dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd i £25,000”.

Paragraff 10.0

Roedd Paragraff 10.0 yn cynnwys:

“Grantiau Tai Gwag yn ôl i ddefnydd (uchafswm £25,000), gyda 32 o achosion ar gofnod a dyraniad o £675,000. Benthyciadau Rhannu Ecwiti i brynwyr tro cyntaf ar gyfer pryniant tai ar y farchnad agored, 10 achos, gyda £390,000. Cynllun Llywodraeth Cymru Adnewyddu Tai Gwag, 16 achos, £38,000. Cynllun sybsideiddio rhenti marchnad agored i fod yn fforddiadwy ar gyfer pobl leol, 10 achos, £50,000. Cynllun prynu tai marchnad agored i’w rhentu ar delerau rhent “canolraddol neu Rhentu yn gyntaf” i’w datblygu yn 2024-25, gydag arian ar gyfer rôl cynorthwyydd tai gwag, £49,000.

“Roedden ni eisiau sicrhau bod gan bawb rywle i’w alw’n gartref,” meddai’r Cynghorydd Gary Pritchard wrth y cyfarfod.

Roedd y cynlluniau’n cynnwys “dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd, prynu hen dai cyngor ac roedd sefydlu cynlluniau ecwiti a rennir wedi helpu pobol i gael eu troed ar yr ysgol dai.

“Rydyn ni’n buddsoddi’r arian gan y rhai sy’n medru fforddio mwy nag un tŷ, i helpu eraill nad ydyn nhw’n medru fforddio cartref i gael troed ar yr ysgol dai,” meddai wrth y cyfarfod.

Cytunodd y pwyllgor gwaith hefyd i oedi rhan o’r argymhelliad, sef ‘dyraniad’ ariannol i’r Gwasanaeth Cynllunio gwerth £300,000, hyd nes bod modd gwirio rhagor o wybodaeth.