Mae Cadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru wedi mynegi ei bryder am effaith y toriad yng nghyllideb y Cyngor Llyfrau, gan ddweud eu bod yn parhau i chwilio am ffynonellau ariannol eraill.
Mewn datganiad, fe ddywedodd yr Athro M Wynn Thomas y bydd y toriad o 10.6% yng nghyllideb blynyddol Cyngor Llyfrau Cymru yn arwain at leihad yn nifer y llyfrau sy’n cael eu cyhoeddi, ynghyd ag effeithio cyrhaeddiad llyfrau o Gymru.
Fe ddywedodd y bydd yn effeithio nifer y staff y gall cyhoeddwyr eu cyflogi, gan roi swyddi golygu a dylunio ynghyd â chynhaliaeth awduron yn y fantol.
Fe ddywedodd y bydd yn effeithio ar y diwydiant cyhoeddi Cymraeg a Saesneg yng Nghymru gan ddweud fod y Cyngor “wedi datblygu i fod yn gorff dwyieithog amlweddog sydd yr un mor allweddol i ddiwydiant llyfrau’r Gymru ddi-gymraeg ag yw i fyd llyfrau’r Gymru Gymraeg.”
‘Meithrin awduron a chefnogi busnesau’
Ar hyn o bryd, mae Cyngor Llyfrau Cymru yn cefnogi 300 o gyhoeddiadau y flwyddyn, 200 o’r rheiny yn Gymraeg a 100 yn y Saesneg. Maent hefyd yn cefnogi nifer o gylchgronau yn y ddwy iaith.
Esboniodd fod cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn golygu fod y Cyngor Llyfrau yn medru cyrraedd at gymunedau o ddarllenwyr ar draws ffiniau cymdeithasol a daearyddol, wrth gyhoeddi llyfrau amrywiol.
Mae eu cefnogaeth hefyd wedi ategu at lyfrau print ac e-lyfrau, gan sicrhau twf yn y diddordeb mewn llyfrau o Gymru, yn ôl y Cadeirydd. Mae hefyd wedi meithrin awduron a chefnogi rhwydwaith o fusnesau, gan gynnwys cyhoeddwyr a llyfrwerthwyr.
‘Asgwrn cefn’
“Mae llyfrau o Gymru yn asgwrn cefn i’r sector addysg a’r llyfrgelloedd fel ei gilydd. Rwy’n ofni nawr y gall y cyfan hwn fod yn y fantol,” ychwanegodd yr Athro M Wynn Thomas.
“Bydd y Cyngor fel sefydliad yn parhau i weithio’n egnïol i ganfod ffynonellau ariannol eraill wrth sylweddoli pwysigrwydd ein gwaith craidd o hyrwyddo’r diwydiant cyhoeddi yn y ddwy iaith er lles Cymru gyfan.”