Mae un o aelodau’r grŵp Take That wedi enwi’i fab newydd anedig yn Bowie Taylan Donald.

Meddai Howard Donald ar ei gyfrif trydar: “Bowie Taylan Donald came into this world on Tues 12th Jan. Mummy and daddy suffering sleep deprivation but life is wonderful, he is divine.”

Dyma blentyn cyntaf y cerddor 47 oed gyda’i wraig Kate Halil. Fe briodon nhw flwyddyn yn ôl.

Mae ganddo ddwy ferch, Grace a Lola, o berthynas flaenorol.

Bu farw David Bowie o ganser ddydd Sul, yn 69 oed.

Nid oes cadarnhad bod Howard Donald wedi enwi ei fab er cof am y canwr, ond yn dilyn marwolaeth Bowie fe drydarodd: “Feel very honoured that I have a photo of me and Jay (Jason Orange) with David Bowie. When we did TOTP. What a genius and a great loss. RIP.”