Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi talu teyrnged i’w cadeirydd, Dr Fred Slater, fel “un o’r hoelion wyth” a “llysgennad dros arddwriaeth”.

Daw hyn wrth iddo baratoi i ymddeol yn ddiweddarach eleni.

Fe fu’n gadeirydd pwyllgor yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ac mae’n gyn-gyfarwyddwr y digwyddiad.

Bywyd a gyrfa

Yn enedigol o Orllewin Canolbarth Lloegr, bu’n byw a gweithio yng Nghymru ers dros hanner canrif.

Ar ôl graddio mewn Botaneg o Goleg Prifysgol Aberystwyth, dychwelodd i’w fro enedigol lle bu’n athro Bioleg.

Ar ôl ennill tystysgrif ôl-radd mewn Addysg yn Llundain a gradd Meistr mewn Ecoleg Mawndiroedd, dychwelodd i Adran Ecoleg Prifysgol Aberystwyth gan astudio ar gyfer Doethuriaeth yn arbenigo ar Gors Fochno a mawndiroedd eraill.

Gadawodd Aberystwyth yn 1974 i fynd yn Gyfarwyddwr Canolfan Maes Llysdinam, ddaeth yn rhan o Ysgol Biowyddorau Caerdydd yn ddiweddarach.

Mae’n Gymrawd Ymchwil Er Anrhydedd yn yr ysgol honno o hyd, yn ogystal â bod yn Gymrawd Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol, yn enillydd medal arian ac yn Is-Lywydd Oes Er Anrhydedd Cymdeithas Amaethyddol Brenhinol Cymru, yn Gymrawd y Sefydliad Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol Siartredig, yn Ecolegydd Siartredig ac yn Amgylcheddwr Siartredig.

‘Ymddeoliad hir, hapus ac iach’

Yn dilyn ei gyhoeddiad ei fod e am ymddeol, talodd Geraint James deyrnged i’w ymroddiad diflino a’i ymrwymiad i ddatblygiad yr Ŵyl dros y blynyddoedd, ac i’w gysylltiad hirsefydlog â’r Gymdeithas Adran Arddwriaethol ers canol y 1970au.

“Rydym yn falch y bydd Dr Fred Slater yn aros ar Bwyllgor yr Ŵyl, ac yn edrych ymlaen at ei gyfraniadau yn y dyfodol,” meddai.

“Ar ran CAFC, dymunwn ymddeoliad hir, hapus ac iach i Fred.”