Mae Bil Streiciau’r Deyrnas Unedig yn “fygythiad i wasanaethau cyhoeddus, rhyddid democratiaeth a datganoli”, yn ôl Cwnsler Cyffredinol Cymru.

Dan y cynigion gan Lywodraeth San Steffan, bydd rhai gweithwyr yn y sector cyhoeddus yn gorfod gweithio yn ystod streiciau.

Byddai rhai gweithwyr, gan gynnwys rhai yn y diwydiant rheilffyrdd a’r gwasanaethau brys, yn gallu cael eu diswyddo pe baen nhw’n gwrthod gweithio.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu’r Bil, gan ddweud ei fod yn “ymosodiad gwleidyddol” ar hawliau ac urddas gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus.

Fel mae pethau ar hyn o bryd, bydd y Bil yn berthnasol i Loegr, Cymru a Lloegr, ond mae Tŷ’r Arglwyddi wedi gwrthod y Bil gan basio gwelliant i’w gyfyngu i Loegr.

Yn Nhŷ’r Cyffredin neithiwr (nos Lun, Mai 22), pleidleisiodd Aelodau Seneddol yn erbyn gwelliant gan Dŷ’r Arglwyddi i beidio â chynnwys Cymru a’r Alban fel rhan o’r Bil.

‘Tanseilio egwyddorion’

Wrth wneud datganiad yn y Senedd ddoe (dydd Llun, Mai 22), dywedodd Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru, bod gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig “wedi amddifadu llywodraethau datganoledig o’r pŵer i atal hysbysiadau gwaith rhag cael eu rhoi yng Nghymru gan Weinidogion y Deyrnas Unedig”.

“Byddwn yn gweithio gydag undebau llafur a chyflogwyr drwy ein model partneriaeth gymdeithasol i archwilio pob dewis sydd ar gael er mwyn osgoi unrhyw bosibilrwydd y bydd hysbysiadau gwaith yn cael eu dyroddi yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru,” meddai Mick Antoniw.

“Yng Nghymru, mae gwasanaethau cyhoeddus datganoledig ac undebau llafur yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol ac mae’r perthnasoedd hynny wedi’u seilio ar ymddiriedaeth, ewyllys da a pharch at y naill a’r llall – dyma egwyddorion y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn eu tanseilio’n gwbl ddiystyriol drwy’r Bil hwn.

“Mae gennym strwythurau partneriaeth gymdeithasol werthfawr sy’n bodoli eisoes ym mhob un o’r gwasanaethau cyhoeddus datganoledig a nodir yn y Bil, sy’n dwyn ynghyd Lywodraeth Cymru, cyflogwyr ac undebau llafur.

“Byddwn yn defnyddio’r strwythurau hyn i drafod a cheisio cydgysylltu’r ymatebion os daw’r Bil yn gyfraith ac yn gymwys i Gymru a’n gwasanaethau cyhoeddus datganoledig.”

Bydd pwyllgor o Aelodau Seneddol yn adrodd yn ôl i Dŷ’r Arglwyddi i egluro pam eu bod nhw wedi gwrthod y gwelliant, ynghyd â gwelliannau eraill fel atal gweithwyr rhag cael eu diswyddo neu eu cosbi am beidio â gweithio.