David Lloyd George
I nodi 100 mlynedd ers dechrau cyfnod y Cymro Cymraeg David Lloyd George fel Prif Weinidog Prydain, mae ymgyrch wedi’i lansio heddiw i gadw ei etifeddiaeth yn fyw.

David Lloyd George yw’r unig siaradwr Cymraeg i fod yn y rôl ac fe oedd y Rhyddfrydwr olaf i gyflawni’r swydd hefyd.

Fel rhan o’r ymgyrch, mae’r cyflwynydd Dan Snow, gor-gor-ŵyr y gwleidydd wedi datgan ei gefnogaeth i apêl gwerth £250,000 i adnewyddu amgueddfa Lloyd George, sydd hefyd yn gyn-gartref iddo yn Llanystumdwy, Cricieth.

Dywedodd cyflwynydd y One Show yn wleidydd “radical gwrthryfel a ddaeth y dyn mwyaf pwerus yn yr ymerodraeth Brydeinig ac a osododd sylfeini ein gwladwriaeth les.

“Mae angen amgueddfa iach arnom i goffáu’r dyn hynod hwn, nid yn Llundain, ond yn y lle ble cafodd ei fagu ac y ffurfiodd cymaint o’i safbwyntiau gwleidyddol.”

‘Pwysig cofio ei gyfraniad aruthrol’

Bu’r cyn-gyfreithiwr yn arwain y llywodraeth glymblaid drwy gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf cyn chwarae rôl hollbwysig yng Nghynhadledd Heddwch Paris yn 1919 a drawsnewidiodd Ewrop.

Wrth i’r apêl gael ei lansio, fe wnaeth ŵyr Lloyd George, Bengy Carey Evans, sy’n 90 oed, o Gricieth, osod torch ar fedd ei dad-cu, wrth i blant o’r ysgol leol ganu caneuon.

Un arall sy’n cefnogi’r apêl yw’r cyflwynydd newyddion Huw Edwards, a ddywedodd ei fod yn “bwysig – yng Nghymru a thu hwnt – i gofio ei gyfraniad aruthrol”.

Dywedodd gornith Lloyd George, Elizabeth George, o Gricieth, mai gobaith y fenter codi arian oedd cael rhagor o arddangosfeydd mwy modern a  rhyngweithiol.

“Rydym hefyd yn gobeithio trefnu gweithdai, darlithoedd a digwyddiadau i ystyried rôl y prif weinidog, yn ystod cyfnodau o ryfel a heddwch,” meddai.

Yn ogystal â digwyddiadau dros y Deyrnas Unedig, bydd cinio o enwogion a phobol amlwg yn cael ei gynnal yn Llundain yn ddiweddarach eleni.