Fe fydd plant ysgol yn Abertawe’n symud i gartref dros dro yn y ddinas yr wythnos hon ar ôl ffarwelio â’u hen ysgol ddydd Gwener ddiwethaf.

Wrth i adeilad Ysgol Lôn Las yn Llansamlet gael ei ddymchwel i greu lle ar gyfer adeilad newydd sbon, fe fydd y disgyblion yn derbyn eu haddysg dros dro ar safle Ysgol y Cwm ym Monymaen.

Byddan nhw’n dechrau ar safle Ysgol y Cwm ddydd Mercher ar ôl penwythnos hir.

Mae disgwyl i’r ysgol newydd sbon fod yn barod erbyn mis Medi 2017.

Pryderon

Cafodd nifer o bryderon eu codi am y cynlluniau, gan gynnwys cludo’r plant ar daith hirach o’u cartrefi yn nalgylch Lôn Las i’r safle ym Monymaen.

Mewn llythyr a gafodd ei anfon at rieni Ysgol Lon Las, dywedodd y Cyngor Sir: “Os ydych yn byw mwy na 2 filltir o safle presennol yr ysgol neu’r safle dros dro (SA1 7DL) bydd eich plentyn/plant yn gymwys am gludiant ysgol am ddim i’r ysgol ac yn ôl, gan gael eu casglu a’u dychwelyd i orsaf bws cyfagos.”

Er gwaethaf pryderon ynghylch cludiant, dywedodd Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol fod rhieni’n hapusach eu byd ers iddyn nhw weld Ysgol Y Cwm yr wythnos diwethaf.

Dywedodd Ian Roberts wrth Golwg360: “O’dd rhieni’n amheus am rai pethau. Ond maen nhw wedi gweld yr ysgol nawr ac yn hapusach nawr nag o’n nhw. O’n nhw’n canmol ddoe.”

Cyfnod newydd

Er gwaetha’r tristwch o adael safle a agorodd yn 1949, mae’r plant yn edrych ymlaen at gyfnod newydd cyffrous, meddai.

“Mae teimladau cymysg gyda ni oherwydd ry’n ni’n mynd o un ysgol i’r llall.

“Bydd y plant yn edrych ymlaen at ddod dydd Mercher nesa ac ry’n ni’n edrych ymlaen at eu cael nhw.

“Ond bydd lot o blant yn gweld eisie’r hen ysgol.”

I rai o’r plant, roedden nhw’n ffarwelio â’r ysgol am y tro olaf, gan y byddan nhw wedi symud i’r ysgol uwchradd erbyn i’r safle newydd agor ymhen blwyddyn a hanner.

Cydweithio

I eraill, fe fyddan nhw’n dygymod â rhannu safle dros y misoedd i ddod, ac mae Ian Roberts yn rhagweld y bydd y symudiad o’r naill safle i’r llall yn un esmwyth.     

“Ry’n ni a llywodraethwyr a phennaeth Y Cwm yn dod ymlaen yn iawn. Ry’n ni wedi cael help mawr gyda nhw o’r dechrau i’r diwedd,” ychwanegodd Ian Roberts.

“Ry’n ni wedi hala amser yn trafod popeth gyda’r Cwm – beth sydd i fod i ddigwydd, beth sydd ddim i fod i ddigwydd.

“Ar hyn o bryd, ‘dyn ni ddim yn gwybod beth sy’n mynd i godi ond ‘dyn ni ddim yn rhagweld unrhyw broblemau.”