Mae uwch gynghorwyr wedi clywed bod adroddiad gan fwrdd iechyd oedd yn honni bod Cyngor Sir Penfro wedi argymell parc gwyliau Bluestone fel lleoliad ar gyfer ysbyty maes Covid-19 yn anghywir.

Cydweithiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda â Chyngor Sir Penfro wrth sefydlu Ysbyty Carreg Las, ysbyty maes 126 gwely ar gyfer Covid-19, ym mis Ebrill 2020, gyda Pharc Gwyliau Cenedlaethol Bluestone wedi’i nodi fel y lleoliad mwyaf addas gan y bwrdd iechyd.

Fodd bynnag, mae cofnodion cyfarfod Hywel Dda o 2020 yn nodi bod y Cyngor Sir wedi argymell y safle, sydd wedi cael ei amau gan Sir Benfro.

Fis diwethaf, dywedodd David Simpson, arweinydd y Cyngor, nad oedd y Cyngor yn rhan o’r penderfyniad gan Hywel Dda i leoli’r ysbyty yn Bluestone, gan ychwanegu, “Wnaeth Cyngor Sir Benfro ddim argymell Bluestone i Hywel Dda ar unrhyw adeg, cafodd y penderfyniad ei wneud gan uwch reolwyr Hywel Dda.”

Hysbysiad

Fe ddaeth ei ddatganiad yn dilyn yr Hysbysbiad Cynnig gafodd ei gyflwyno gan y Cynghorydd Alan Dennison, oedd wedi gofyn, “O ystyried mai Bluestone oedd y cyfleuster gafodd ei argymell ar gyfer yr ysbyty maes yn ystod y pandemig, a yw’r Aelod Cabinet bellach yn credu mai dyma’r dewis cywir, o ystyried cyfanswm costau o fwy na £10m i Fwrdd Iechyd Hywel Dda a cholli incwm (ac ailwampio’r ganolfan) i’r Cyngor o beidio defnyddio canolfannau hamdden Sir Benfro fel y gwnaeth Cyngor Sir Caerfyrddin?”

Roedd y Cynghorydd Alan Dennison hefyd wedi cyflwyno Hysbysiad Cynnig perthynnol “fod yn rhaid i unrhyw benderfyniad gan Gyngor Sir Penfro o dan amgylchiadau tebyg i’r ymateb pandemig i gyflenwi ysbytai maes ystyried yn bennaf fanteision ariannol i’r Cyngor a threthdalwyr, a pheidio ag argymell na chefnogi unrhyw fenter fasnachol breifat”.

Cafodd yr hysbysiad cynnig perthynnol ei drosglwyddo i gyfarfod Cabinet y Cyngor ar Ebrill 24.

Yn ei adroddiad cefnogol, dywedodd y Cynghorydd Alan Dennis fod yr “hysbysiad cynnig hwn wedi’i gyflwyno er mwyn meithrin hyder y cyhoedd yn y system”.

“Dylai penderfyniadau o’r natur yma bob amser gael eu gwneud yn dilyn dadansoddiad cadarn o fuddion ariannol mewn ffordd sy’n cefnogi tryloywder ac agoredrwydd.”

Adroddiad y Cyngor

Dywed adroddiad ar gyfer Aelodau’r Cabinet, “Cefnogodd swyddogion Cyngor Sir Penfro uwch swyddogion yn Hywel Dda wrth adeiladu’r ysbyty maes, ond roedd yn brosiect gafodd ei arwain gan Hywel Dda serch hynny, a chafodd yr holl benderfyniadau ynghylch nodweddion, lleoliad a chostau eu gwneud gan Hywel Dda, a rôl Cyngor Sir Penfro oedd bod yn bartner gweithredol ar gyfer adeiladu ac nid yn un o wneud penderfyniadau.

“Cafodd lleoliad y datblygiad ei ddewis gan swyddogion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda o gyfres o opsiynau oedd ar gael iddyn nhw, ac mae gohebiaeth Cyngor Sir Penfro â swyddogion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnig nifer o safleoedd posib gan gynnwys ysgolion a chanolfannau hamdden, a thra eu bod nhw wedi cyflwyno Bluestone i’w ystyried yn dilyn cynnig gan y cwmni i fod o gymorth, wnaeth swyddogion Cyngor Sir Penfro ddim argymell Bluestone fel hoff safle dros unrhyw un arall; cafodd y penderfyniad hwn ei wneud gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.”

Dywedodd y Prif Weithredwr Will Bramble wrth aelodau ei fod e wedi adolygu’r holl waith papur cysylltiedig, gan gadarnhau bod nifer o opsiynau wedi cael eu cyflwyno i Hywel Dda.

Cefnogodd aelodau’r Cabinet argymhelliad fod yr hysbysiad cynnig yn cael ei drosglwyddo i’r bwrdd iechyd, a bod y Cyngor yn cydweithio â’r bwrdd “i wneud cais am gydnabyddiaeth ffurfiol fod cofnodion o fwrdd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda oedd yn awgrymu bod Cyngor Sir Penfro wedi argymell safle Bluestone, yn anghywir”.

Ailadrodd yr awgrym “bum gwaith”

Yn y cyfarfod ar Ebrill 24, dywedodd y Cynghorydd Alan Dennison iddo dderbyn adolygiad cyfrinachol 25 tudalen gan y bwrdd iechyd, yn dilyn cais Rhyddid Gwybodaeth, oedd yn cynnwys sôn o leiaf bum gwaith fod y Cyngor wedi argymell safle Bluestone.

Dywedodd Paul Miller, y dirprwy arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Leoedd, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd, fod yr adroddiad ar gyfer aelodau’n dangos yr opsiwn o gyfleusterau eraill, gan ychwanegu, “Os oes gan y Cynghorydd Dennison wybodaeth ein bod ni wedi argymell Bluestone, a dim ond Bluestone, byddai gen i ddiddordeb ei chlywed.”

Adroddodd y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol yn flaenorol fod yr ysbyty brys – gafodd ei adnabod fel Ysbyty Carreg Las – wedi arwain at dalu oddeutu £6m i’r safle gwyliau lleol.

Cafodd y costau yn Bluestone eu talu gan Hywel Dda.