Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi dymuno “Eid Mubarak” i Fwslimiaid ar draws y byd.

Mae Eid heddiw (dydd Gwener, Ebrill 21) yn nodi diwedd mis sanctaidd Ramadan, ac mae’n cael ei ddathlu drwy ddirwyn ympryd i ben wrth i’r lleuad newydd gael ei gweld am y tro cyntaf.

Mae’r diwrnod yn dechrau gyda gweddïau mewn mosg unrhyw amser ar ôl 7 o’r gloch y bore.

Yn ôl traddodiad, mae Mwslimiaid yn gwisgo dillad newydd i fynd i’r mosg, yn bwyta rhywbeth melys i dorri ympryd, ac yn gweddïo.

Cyn gweddïo, mae’n arfer rhoi arian tuag at achos da er mwyn bwydo pobol dlawd wrth baratoi i wledda.

Ramadan yw nawfed mis y flwyddyn galendr, ac mae Eid yn cael ei ddathlu ar ddechrau’r degfed mis.

Mae pob mis yn cael ei fesur yn ôl y lleuad, sy’n golygu bod y dathliadau’n dechrau ar adegau ychydig yn wahanol ar draws y byd.

Neges y Prif Weinidog

“Hoffwn ddymuno #EidMubarak i Fwslimiaid ledled y byd wrth iddyn nhw nodi diwedd mis sanctaidd Ramadan,” meddai’r Prif Weinidog, Mark Drakeford.

“Mae eich aberth a’ch cyfraniad i gymunedau lleol yn ystod y cyfnod hwn yn ysbrydoledig.

“Rwy’n dymuno’r gorau i chi wrth i chi ddathlu gyda’ch teulu a’ch ffrindiau yr Eid hwn.”