Mae trefniadau parcio newydd ar gampws Llanbed Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi arwain at ymateb chwyrn, wrth i bobol leol sylweddoli nad oes modd apelio yn erbyn dirwyon trwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ddiweddar, cafodd y trefniadau parcio ar y safle eu newid wedi iddo gael ei gymryd drosodd gan y cwmni rheoli meysydd parcio Parkingeye Ltd.

O dan y rheolau newydd, caiff y cyhoedd barcio am ddim am yr hanner awr gyntaf ond mae’n rhaid talu i barcio am unrhyw gyfnod wedi hynny.

Mae camerâu ar fynyddoedd o amgylch y Brifysgol yn nodi rhifau cofrestru’r ceir sy’n parcio yno, a bydd unrhyw un sy’n aros am fwy na hanner awr heb dalu yn wynebu dirwy o £60 gan Parkingeye.

“Dyletswydd” i ddarparu gwasanaeth Gymraeg

Mae aelod o staff yn y Brifysgol, nad yw hi eisiau cael ei henwi, wedi derbyn un o’r dirwyon hyn wedi iddi ddefnyddio car gwahanol i’r arfer i deithio i’w gwaith.

“Be’ wnes i oedd es i a char fy merch un diwrnod i’r gwaith ac anghofio, felly ges i ddirwy am fy mod i heb gofrestru’r car hynny,” meddai wrth golwg360.

Wedi iddi dderbyn y ddirwy trwy’r post ac edrych ar y manylion ar gyfer apelio, sylweddolodd nad oedd modd cysylltu â Parkingeye drwy gyfrwng y Gymraeg, er i’r llythyr fod yn gwbl ddwyieithog.

“Ni fydd Parkingeye Ltd ond yn derbyn ac yn ymateb i apeliadau yn Saesneg,” meddai’r llythyr.

Dywed yr unigolyn ei bod hi’n credu bod dyletswydd arnyn nhw, fel cwmni sy’n gweithredu yng Nghymru, i alluogi’r defnydd o’r iaith Gymraeg.

“Dydy e ddim yn dderbyniol i ddweud y gwir, mae gennym ni hawliau gyda’r Gymraeg yng Nghymru,” meddai.

“Mwy na thebyg eu bod nhw’n gwmni o du allan o Gymru, ond hyd yn oed wedyn mae gennym ni hawliau fel Cymry Cymraeg.”

‘Deall bod anawsterau’

Mewn datganiad am y sefyllfa parcio, sydd wedi cael ei rannu, dywedodd llefarydd ar ran y Brifysgol eu bod yn gwerthfawrogi cefnogaeth cymuned Llanbed a’r cyffiniau.

“Mae’r Brifysgol wedi cyflwyno system rheoli parcio ar draws ei champysau i sicrhau ein bod yn darparu amgylchedd campws diogel a hygyrch i’n myfyrwyr, staff ac ymwelwyr,” meddai llefarydd.

“Mae rheoli parcio yn her gynyddol, gyda phob campws yn wynebu ei faterion penodol ei hun, ac nid yw Llanbed yn eithriad.

“Rydym yn deall, fodd bynnag, fod cyflwyno’r system talu am barcio wedi achosi peth anhawster yn Llanbed ac rydym yn cysylltu ag aelodau o’n cymuned i fynd i’r afael â’u pryderon.

“Er enghraifft, rydym yn darparu parcio am ddim i grwpiau sy’n defnyddio cyfleusterau ein campws yn rheolaidd, gan gynnwys stondinwyr a chwsmeriaid Marchnad Llanbed.

“Gall unrhyw un sy’n cael anhawsterau gysylltu â thîm y Brifysgol drwy e-bostio parking@uwtsd.ac.uk.”

Cwmni parcio’n gwadu honiadau

“Mae’r maes parcio ar gampws Llanbed Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cael ei fonitro gan systemau camerâu ANPR,” meddai llefarydd ar ran Parkingeye.

“Fel rhan o’n hymrwymiad i fodloni Safonau’r Gymraeg sydd wedi’u hamlinellu gan Lywodraeth Cymru, mae gan y maes parcio arwyddion blaenllaw a gweladwy iawn yn Gymraeg a Saesneg, sy’n hybu hygyrchedd llawn ac yn rhoi canllawiau clir i fodurwyr ynghylch sut i ddefnyddio’r maes parcio mewn modd cyfrifol.

“Yn ogystal, mae Hysbysiadau Tâl Cosb yn cael eu dosbarthu yn Gymraeg a Saesneg ac mae gan fodurwyr y cyfle i apelio yn Gymraeg a Saesneg ar ein gwefan ac wrth gyfathrebu’n ysgrifenedig.”