Mae ymgyrchwyr iaith yn galw am gyflwyno cyllideb frys i’r Gymraeg yn nhymor nesaf y Cynulliad wedi’r etholiadau ym mis Mai.
Daw’r galwad yn dilyn sylwadau’r Prif Weinidog Carwyn Jones ddoe, fu’n ymddangos gerbron pwyllgor y Cynulliad, i amddiffyn toriadau’r Llywodraeth ar y Gymraeg.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw’n benodol am 1% o’r gyllideb i gael ei wario ar brosiectau i hyrwyddo’r Gymraeg. 0.16% yw’r canran mae’r Llywodraeth yn ei wario ar y Gymraeg ar hyn o bryd.
Yn nogfen weledigaeth y mudiad, ‘Miliwn o Siaradwyr Cymraeg: Gweledigaeth 2016 Ymlaen’, mae’r mudiad yn galw ar bleidiau i ymrwymo i’r cynnydd hwn yn eu maniffestos ar gyfer etholiadau’r Cynulliad.
Dilyn Gwlad y Basg
Mae Gwlad y Basg eisoes yn gwario 1% o’i chyllideb ar yr iaith Fasgeg, sydd wedi gweld cynnydd yn nifer y siaradwyr, ac mae Cymdeithas yr Iaith am weld yr un buddsoddiad yn digwydd yng Nghymru.
“Mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn codi flwyddyn nesaf, ond eto, maen nhw’n cynllunio gwneud toriad sylweddol i’r Gymraeg. O ystyried cyflwr y Gymraeg, nid oes modd cyfiawnhau hynny,” meddai Jamie Bevan, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.
“R’yn ni’n galw ar i’r holl bleidiau ymrwymo yn eu maniffestos i gyflwyno cyllideb frys a fydd yn cynyddu’r buddsoddiad yn y Gymraeg, ynghyd â tharged hir dymor i’w gynyddu fel bod modd cynllunio polisïau iaith yn iawn dros amser.
“Yn wir, mae’r gyllideb ddrafft yn ffafrio’r Saesneg i raddau helaeth, ac yn cynrychioli buddsoddiad yn yr iaith honno.”
Asesiad annibynnol ar wariant
Mae’r mudiad iaith hefyd yn galw ar i gyrff y mae’r llywodraeth yn eu hariannu i glustnodi 1% o’u cyllidebau ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae angen i Gomisiynydd y Gymraeg gynnal asesiad annibynnol hefyd ar effaith gwariant prif-ffrwd y Llywodraeth ar y Gymraeg.
Amddiffyn
Yng Nghyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016/17, bydd y Gymraeg yn cael tua £2m yn llai o arian ar gyfer hybu’r iaith ac ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg.
Dywedodd Carwyn Jones ddoe ei fod wedi bod yn “anodd” ond gyda llai o arian gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, mae’n rhaid gwneud toriadau.
“Dyw hi ddim yn achos lle mai’r iaith Gymraeg yw’r unig faes sydd wedi cael toriadau,” meddai wrth y pwyllgor ddoe.
“Mae e’n anodd, ond mae’n rhaid i ni gofio beth yw’r cefndir neu’r cyd-destun ariannol fan hyn.”