Timau achub mynydd Dyffryn Ogwen yn cynnal ymarfer
Mae Heddlu’r Gogledd yn dweud bod dau ddringwr oedd wedi mynd i drafferthion  yn yr eira yn Eryri bellach wedi cael eu hachub.

Fe wnaeth y dringwyr  alw am gymorth am 5.30 brynhawn dydd Mercher ar ôl mynd i drafferthion yn ardal y Glyder Fach.

Methodd hofrennydd  achub gwylwyr y glannau gyrraedd y ddau neithiwr oherwydd stormydd eira, gwyntoedd cryfion a chymylau isel.

Cafodd y chwilio ei ohirio am 1:00 bore dydd Iau ond fe lwyddodd aelodau o Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen i siarad â’r dringwyr y bore yma.

Ni fu’n rhaid i’r ddau gael triniaeth.

Mae Heddlu’r Gogledd yn cynghori pobl i edrych ar y rhagolygon tywydd cyn mentro i ddringo mynyddoedd Eryri.