Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg wedi beirniadu’r Mesur Mudo Anghyfreithlon yn hallt.
Maen nhw hefyd yn galw ar Suella Braverman, Ysgrifennydd Cartref San Steffan, i dderbyn gwelliannau pan fydd y mesur yn dod yn ôl gerbron y Senedd cyn mynd i Dŷ’r Arglwyddi.
Mewn llythyr at Suella Braverman ar ran yr Undeb, dywedodd eu Llywydd, y Parchg Beti-Wyn James, i’r aelodau gael eu harswydo gan y bwriad i alltudio plant sydd heb gwmni, teuluoedd a menywod unigol o’r gwersylloedd cadw.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymddwyn yn groes i gyfraith ryngwladol a hawliau dynol drwy drin ceiswyr lloches sy’n croesi Sianel Lloegr mewn cychod bach fel troseddwyr, meddai.
Mae’r Undeb yn annog Suella Braverman i ystyried darparu llwybrau mynediad mwy diogel a chyfreithlon i’r Deyrnas Unedig, er mwyn galluogi ceiswyr lloches i gael eu hachosion wedi’u prosesu’n gyfreithiol mewn modd trugarog a gwâr.
Y llythyr
Dyma’r llythyr yn ei gyfanrwydd:
Annwyl Ysgrifennydd Cartref
Rwy’n ysgrifennu ar ran Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, sy’n cynrychioli Cristnogion o bob lliw gwleidyddol sy’n cyfarfod mewn 350 o gapeli ledled Cymru.
Mae’r Mesur Mudo Anghyfreithlon a’i ganlyniadau i’r rhai sy’n ffoi rhag gwrthdaro ac erledigaeth yn peri gofid mawr i’n haelodau. Yn benodol, cawsom ein harswydo gan y cymal a fyddai’n caniatáu alltudio plant sydd heb gwmni, teuluoedd a menywod unigol o’r gwersylloedd cadw.
Credwn fod y Bil yn adlewyrchu’n wael ar enw da y DU drwy fynd yn groes i gyfraith ryngwladol a chonfensiynau hawliau dynol drwy drin ceiswyr lloches, sy’n peryglu eu bywydau drwy groesi Sianel Lloegr mewn cychod bach, fel troseddwyr. Fel y mae nawr, bydd y Bil yn gwadu cefnogaeth i ddioddefwyr caethwasiaeth fodern a’r rhai a fasnachwyd gan droseddwyr sy’n smyglo pobl, a fydd yn siŵr o ganfod ffyrdd eraill i mewn i’r DU. Yn ein barn ni, ni fydd y Mesur yn atal mudo anghyfreithlon.
Rydym yn eich annog yn barchus i ystyried darparu llwybrau mynediad mwy diogel a chyfreithlon i’r DU, er mwyn galluogi ceiswyr lloches i gael eu hachosion wedi’u prosesu’n gyfreithiol mewn modd trugarog a gwâr.
Sylweddolwn fod y Mesur Mudo Anghyfreithlon eisoes wedi cychwyn ar ei ffordd drwy’r Senedd ac nad oes modd ei dynnu’n ôl. Ond fel pobl o ffydd, rydym yn erfyn arnoch chi, fel Bwdhydd o argyhoeddiad, ac yn enw ein dynoliaeth gyffredin, i dderbyn Gwelliannau i’r ddeddfwriaeth. Gall y rheiny, o leiaf, leddfu’r dioddefaint y bydd y Bil hwn, heb os, yn ei achosi i bobl sydd mewn gofid ac anobaith yn ffoi rhag erledigaeth.
Yn gywir,
Parchedig Beti-Wyn James BD MTh
Llywydd, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg