Mae Menter Môn wedi gosod Wi-Fi cyhoeddus ar draws amryw o leoliadau arfordirol o gwmpas Ynys Môn, fydd o fudd i bysgotwyr, busnesau morwrol a busnesau sy’n gysylltiedig â’r arfordir.

Trwy gyllid gan y Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Gogledd Cymru, mae Menter Môn wedi gosod Wi-Fi cyhoeddus yn Nhraeth Bychan a Phorth Amlwch.

Mae gosod y Wi-Fi yn y lleoliadau hyn yn ehangu’r rhwydwaith Wi-Fi cyhoeddus sydd ar gael ar Ynys Môn, sydd wedi cael eu gosod trwy brosiectau dan arweiniad Menter Môn.

‘Llenwi bylchau lle nad oes Wi-Fi ar gael’

“Bydd gosod Wi-Fi cyhoeddus yn y lleoliadau arfordirol gwledig hyn o fudd i’r cymunedau pysgota ac arfordirol, busnesau sy’n gysylltiedig â’r arfordir ac ymwelwyr o fewn cyrraedd yr ardal sydd â Wi-Fi, gan lenwi’r bylchau lle nad oes Wi-Fi ar gael a darpariaeth rhwydwaith symudol cyfyngedig,” meddai Elen Foulkes, Uwch Swyddog Arloesi Menter Môn.

“Yn ogystal â’r data Wi-Fi sy’n cael ei gasglu trwy’r rhwydwaith Wi-Fi bydd o gymorth i wneud penderfyniadau yn y dyfodol.”

Mae gosod y rhwydwaith Wi-Fi cyhoeddus wedi ei gwneud hi’n bosibl i fusnesau yn y lleoliadau hyn gael mynediad at wybodaeth ddefnyddiol am arferion ymwelwyr, fydd o gymorth i wneud penderfyniadau yn y dyfodol.

Mae’r data sydd yn weledol i’r cyhoedd ar gael i’w weld ar Patrwm.io, sef meddalwedd casglu data sydd wedi’i gynllunio i adnabod arferion mewn lleoliadau penodol.

‘Help mawr’

Mae’r Cynghorydd Carwyn Jones, deilydd portffolio Datblygu Economaidd Ynys Môn, wedi croesawu’r lleoliadau SMART newydd.

“Mae’r Wi-Fi yn cefnogi pysgotwyr ym Mhorth Amlwch, gan eu bod yn gallu cofnodi faint o bysgod sydd wedi’i dal ac archebu offer a rhannau ar gyfer y cychod,” meddai.

“Roedd hyn wedi bod yn anodd yn y gorffennol oherwydd y darllediad rhwydwaith symudol gwael yn yr ardal.

“Mae’r Wi-Fi hefyd yn helpu ymwelwyr â’r porthladd, gan eu bod yn gallu cael gwybodaeth am yr hanes a’r adeiladau sydd yma.

“Hoffwn ddiolch i Menter Môn am eu gwaith o ddarparu Wi-Fi cyhoeddus yma ym Mhorth Amlwch yn ogystal â rhannau eraill o’n hynys, mae’n help mawr.”

Un arall sydd wedi ymateb i’r datblygiadau yw’r Cynghorydd Aled Morris Jones, sy’n cynrychioli Twrcelyn ar Gyngor Ynys Môn.

“Mae pysgota yn rhan annatod o Borth Amlwch ac mae’n bwysig iawn ein bod yn gwneud beth bynnag sy’n bosibl gyda thechnoleg SMART i wella cyfleusterau yno ac mewn ardaloedd eraill ar Ynys Môn ac yng ngogledd Cymru,” meddai.