Jordan Miers
Mae deiseb wedi cael ei sefydlu yn galw ar Gyngor Dinas a Sir Abertawe i wneud Marina’r ddinas yn fwy diogel ar ôl i gorff dyn 21 oed gael ei ddarganfod yno’r wythnos diwethaf.

Daeth timau achub o hyd i gorff Jordan Miers, cyn-ddisgybl yn Ysgol Gyfun Bryn Tawe, ddydd Gwener yn dilyn ei ddiflaniad ar Ragfyr 19.

Cafodd ei weld ddiwethaf ar lwybr ger afon Tawe, ac mae lle i gredu ei fod yn cerdded adref i Fonymaen ar gyrion y ddinas pan aeth ar goll.

Mae’r ddeiseb yn galw am osod rheilings o amgylch y Marina ac ar lwybrau afon Tawe, a goleuadau a chamerâu cylch cyfyng ar bob llwybr.

Yn ôl y ddeiseb, “pe bai rheilings a goleuadau mae’n bosib y gellid fod wedi osgoi’r farwolaeth hon a phe bai camerâu cylch cyfyng yno yna fe fyddai ei deulu’n gwybod lle’r oedd e.

“Mae gormod o fywydau wedi cael eu colli yn yr afon hon felly plîs peidiwch â gadael i fywyd ifanc arall fynd i wastraff a rhwygo teulu arall.”

Mewn teyrnged, cafodd Jordan ei ddisgrifio gan Bennaeth Ysgol Gyfun Bryn Tawe, Simon Davies fel “gŵr bonheddig iawn”, gan ychwanegu ei fod yn “gweithio’n galed iawn, iawn” ac yn “ddiymhongar”.

Wrth ymateb i’r ddeiseb, dywedodd ei dad Christopher: “Jordan yw fy mab ac mae hi mor galed heb ei weld e eto, all geiriau ddim ei ddisgrifio, felly os allwn ni atal hyn rhag digwydd eto, byddai hynny’n anhygoel.”

Ymateb y Cyngor

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Dinas a Sir Abertawe: “Mae diogelwch y dŵr yn Abertawe’n rhywbeth rydyn ni’n ei gymryd o ddifri.

“Rydyn ni o hyd yn chwilio am ffyrdd o wella mesurau diogelwch ar ein traethau neu ar hyd ein llwybrau dŵr.

“Yn nhermau afon Tawe, rydym yn gwirio’n gyson er mwyn sicrhau bod cyfarpar achub yn eu lle.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n deal mwy am natur y digwyddiad diweddar cyn bod unrhyw benderfyniadau’n cael eu gwneud ynghylch unrhyw fesurau diogelwch posib.”