Rhun ap Iorwerth
Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi heddiw y byddai’r blaid yn ail-lansio Awdurdod Datblygu Cymru (WDA) er mwyn “ail-sefydlu Cymru fel pwerdy economaidd a diwydiannol”, petai’n dod i rym.

Dywedodd llefarydd y blaid ar yr economi, Rhun ap Iorwerth, wrth annerch y gymuned fusnes, mai’r bwriad yw creu asiantaeth hybu masnach a buddsoddiad newydd, gan adfer brand Awdurdod Datblygu Cymru (WDA) sy’n parhau yn frand “a gydnabyddir ledled y byd.”

 ‘ADC i’r 21ain ganrif’

Dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Rwy’n cyhoeddi y bydd llywodraeth Plaid Cymru yn creu asiantaeth hyd-braich newydd i hybu masnach a buddsoddi i Gymru, ADC i’r 21ain ganrif.

“Partneriaeth cyhoeddus-preifat fydd hon, gyda chynrychiolaeth gref o fusnes ar y bwrdd, yn annibynnol ar y Gwasanaeth Sifil ond yn atebol i’r llywodraeth.

“Bydd yn defnyddio brand ADC ar ei newydd wedd – fel Awdurdod Datblygu Cymru i weithio ledled y byd ac ar hyd a lled y DU, i ddenu busnesau newydd i Gymru, i hybu allforion Cymreig i bob cwr o’r byd ac o fewn y DU.

“Nid ymgais i droi’r cloc yn ôl yw adnewyddu ADC; yn hytrach, bydd yn adeiladu ar lwyddiannau’r gorffennol a dysgu o gamgymeriadau’r gorffennol.

“Bydd yn hwyluso cyflwyno ein cynllun economaidd gartref ac yn ail-sefydlu Cymru fel canolfan adnabyddus a dymunol i fuddsoddi ar lwyfan y byd.”

‘Angen mwy nag ail-frandio’

Ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud bod angen mwy nag “ail-frandio” a bod angen corff sy’n “addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain,” fel sydd eisoes wedi cael ei grybwyll gan ei blaid.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies bod angen “cyngor buddsoddi sy’n cael ei gynnal gan y sector breifat” er mwyn denu cwmnïau o dramor i fuddsoddi yng Nghymru.

Sefydlu ‘Banc Cenedlaethol’

Cyhoeddodd Rhun ap Iorwerth hefyd y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cychwyn ar y rhaglen fwyaf ar gyfer ail-adeiladu a welodd Cymru ers datganoli, dan arweiniad Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC).

Bydd CSCC yn gorfforaeth gyhoeddus newydd fydd yn cynllunio, cyllido ac yn cyflwyno’r dyheadau sy’n cael eu hamlinellu yn y Cynllun Buddsoddi Seilwaith Cenedlaethol.

Un o addewidion eraill y blaid  yw sefydlu Banc Cenedlaethol Cymru i ddarparu cyllid i fusnesau Cymreig i helpu i gau’r bwlch cyllido o £500m y flwyddyn sy’n cael ei wynebu gan fusnesau Cymreig, ac i helpu busnesau Cymru trwy gynnig rhyddhad trethi busnes i 83,000 ohonyn nhw, gan gymryd 70,000 allan o drethi yn gyfan gwbl.