Wrecsam yw’r ddinas â’r obsesiwn mwyaf am y cyfryngau cymdeithasol o blith holl ddinasoedd gwledydd Prydain, yn ôl ymchwil newydd.

Yno mae’r nifer fwyaf o chwiliadau y pen ar gyfer pob 1,000 o’r boblogaeth bob mis.

Maen nhw ar y blaen i Norwich ac Inbhir Nis (Inverness) ar frig y rhestr, a Facebook yw eu hoff lwyfan ar y cyfryngau cymdeithasol, meddai’r wefan AskGamblers.

Fel rhan o’r ymchwil, aethon nhw ati i ddadansoddi nifer y chwiliadau misol ar google am flwyddyn gyfan ar draws y llwyfannau cymdeithasol, gan gynnwys Facebook, Twitter, Snapchat, Instagram a TikTok.

Ar gyfartaledd, roedd 116,780 o chwiliadau bob mis yn y ddinas, sy’n cyfateb i 1,778 o chwiliadau ym mhob 1,000 o’r boblogaeth, sy’n uwch nag unrhyw ddinas arall – a Facebook yw’r cyfrwng mwyaf poblogaidd, gyda 90,500 o chwiliadau.

Mae hyn o gymharu â Norwich, lle mae 242,500 o chwiliadau bob mis, a chyfradd o 1,694 o chwiliadau ym mhob 1,000 o’r boblogaeth – Facebook, Twitter ac Instagram sydd fwyaf poblogaidd yno.

Inbhir Nis sydd â’r boblogaeth isaf o blith y deg uchaf, gyda 76,070 o chwiliadau bob mis, sy’n cyfateb i 1,623 o chwiliadau ym mhob 1,000 o’r boblogaeth.

Bryste sy’n bedwerydd a Lerpwl yn bumed.

Glasgow, Caerfaddon, Henffordd, Belfast a Preston sy’n cwblhau’r rhestr.

“Er gwaetha’r gwahaniaeth mewn rhai dinasoedd pan ddaw i ddiddordeb yn y cyfryngau cymdeithasol, mae’n glir fod Facebook o hyd yn un o’r llwyfannau cymdeithasol â’r galw mwyaf amdano,” meddai llefarydd ar ran AskGamblers.

“Bydd hi’n ddiddorol gweld a ddaw data ar y lefel ranbarthol hon ar gael fyth eto ar gyfer Apple App Store neu Google Play Store i weld sut mae’r maes yn amrywio.”