Mae barbwr sy’n cynnig gwasanaeth i blant ac oedolion ag awtistiaeth ac anghenion cymhleth yn dweud y dylai mwy o wasanaethau tebyg fod ar gael.

Wedi dysgu ei hun ac wedi mynd i mewn i’r maes ar ôl torri gwallt hogyn efo awtistiaeth, roedd hyfforddiant ffurfiol Michael Langford o Gaer yr un fath â phob barbwr arall, ond fel rhan o’i wasanaethau dydy’r cwsmeriaid ddim yn gorfod eistedd mewn cadair i gael torri eu gwallt, ac yn gallu symud yn rhydd ac aros yn y fan sy’n fwyaf cyfforddus iddyn nhw i gael torri eu gwallt.

Ymhlith yr ysgolion mae’n ymweld â nhw i dorri gwallt y plant mae Ysgol Pendalar yng Nghaernarfon.

Mae hefyd yn gwneud ymweliadau cartref, ymweliadau ysgol ac ymweliadau gofal, gan nad yw ei gwsmeriaid yn aml yn hoffi mynd at siop farbwr.

Diffyg chwarae teg i blant

Yn ôl Michael Langford, prin yw’r barbwyr sy’n gallu delio â phlant ag awtistiaeth neu anghenion cymhleth, a dydy’r plant ddim yn cael chwarae teg wrth gael torri eu gwallt.

Gyda thorri gwallt yn gallu bod yn her, mae’n teimlo y dylai mwy o farbwyr fod yn cynnig y math hwn o wasanaeth.

“Mae plant ag awtistiaeth neu ASD, ADHD, a pharlys yr ymennydd yn cael eu gadael ar ôl,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n annheg na allan nhw gael torri eu gwallt.

“Rwy’n teimlo y dylai fod mwy o wasanaethau fel fy un i, oherwydd mae’n annheg nad ydyn nhw’n cael y cyfle i edrych fel eu tad, taid, neu frawd oherwydd na allan nhw gael eu gwallt wedi torri.

“Os gall mwy o bobol gymryd yr amser a chael mwy o amynedd, fel fi a’r bobol sy’n gweithio gyda mi, gallwn gyflawni torri gwalltiau a rhoi rhywbeth yn ôl i’r teuluoedd.

“Mae torri gwallt i rywun fel fi yn iawn; i blant ag ASD, awtistiaeth a pharlys yr ymennydd, mae’n brofiad trawmatig. Mae’n difetha eu diwrnod.

“Mae’n straen iddyn nhw ac i’r rhieni.

“Y rheswm pam ein bod yn gwneud yr hyn a wnawn ydy er mwyn darparu gwasanaeth sy’n cymryd yr holl straen ac ofnau oddi wrth dorri eu gwallt.”

Ymateb rhagorol

Er nad yw Michael Langford yn llwyddo i dorri gwallt pob plentyn, mae’r rhieni a’r plant ar y cyfan sy’n llwyddo cael torri eu gwallt yn ddiolchgar iawn.

Daw pob math o broblemau yn sgil peidio torri gwallt, ond mae Michael Langford yn gwella ansawdd eu bywydau.

“Rwy’n cael ymateb rhagorol. Mae’r bobol yn ddiolchgar,” meddai.

“Nid yw pob toriad gwallt yn llwyddiannus, ond ar gyfer y rhai sy’n llwyddiannus, mae dagrau o lawenydd.

“Rwy’n cael negeseuon yn diolch.

“Rwy’n cael ymateb da gan rieni ac athrawon.

“Rwy’n cael ymateb da gan y rhan fwyaf o’r plant.

“Nid yw rhai plant yn hoffi newid.

“Pan fyddaf yn mynd i’r ysgolion, mae gennyf un bachgen yn benodol, a chyda phob toriad gwallt y mae’n ei gael, mae’n dweud, “Mae hynny’n anhygoel. Dwi’n edrych yn cŵl”.

“Aeth ddwy flynedd a hanner heb gael torri ei wallt.

“Nawr mae’n cael torri ei wallt yn fisol.

“Mae’n llethol ac yn rhoi boddhad mawr i mi allu darparu gwasanaeth sy’n newid bywydau pobol.”

‘Mwy na thorri gwallt’

“Nid torri gwallt yn unig mohono,” meddai Michael Langford wedyn am y gwasanaeth mae’n ei gynnig.

“I blant â gwallt hir nad ydynt yn torri eu gwallt, mae golchi eu gwallt yn dod yn broblem, byddan nhw’n cael croen y pen; byddan nhw’n cael claf ar eu gwallt oherwydd iechyd croen.

“Pan fyddwn yn torri eu gwallt yn fyr, nid yw’n cymryd cymaint o amser mwyach.

“Nid yw’n hir ac wedi clymu.

“Gall amser bath ddod yn fwy rheolaidd ac yn llai o broblem.”

Er mwyn goresgyn yr anawsterau ddaw o geisio defnyddio technegau traddodiadol o dorri gwallt, mae Michael Langford yn defnyddio “techneg unigryw”, meddai.

“Mewn torri gwallt arferol, rydych chi’n eistedd mewn cadair.

“Ond gyda fy nhechneg i, rydw i’n hoffi ceisio dewis un ystafell lle gall y plentyn symud yn rhydd oherwydd, os nad ydych chi’n hoffi rhywbeth ac rydych chi’n cael eich gorfodi i eistedd mewn cadair, dydych chi ddim yn mynd i’w hoffi hyd yn oed yn fwy.

“Felly rwy’n tueddu gadael i’r plentyn symud yn rhydd, a byddaf yn cerdded o gwmpas, yn gorwedd i lawr, lle bynnag y gallwn fod i dorri eu gwallt, lle bynnag maen nhw’n teimlo’n fwyaf cyfforddus.

“Rydyn ni’n mynd i mewn i dai pobol oherwydd dyma’u man cysurus; dydyn nhw ddim yn mynd yn bryderus nac yn ofnus.

“Felly mae’n hollol wahanol i dorri gwallt arferol.”

Spiderman

Gyda Spiderman yn boblogaidd iawn ymysg plant, mae Michael Langford yn manteisio ar hynny ac yn gwisgo fel y cymeriad i leddfu eu hofnau.

Mae nifer y plant mae Michael Langford wedi torri eu gwallt wedi cynyddu oherwydd y wisg, ac mae’r ferch sy’n gweithio iddo hefyd yn gwisgo fel Spidergirl.

“Mae’r plant wrth eu boddau wrth i mi wisgo lan fel cymeriadau gwahanol,” meddai.

“Maen nhw’n fy ngharu i wedi gwisgo fel Spiderman.

“Spiderman yw’r arwr mwyaf ar hyn o bryd.

“Ar gyfer plant rhwng tair a 12 oed, fo yw un o’r sêr mwyaf cyfredol.

“Mae plant yn gwylio Spiderman, mae Spiderman yn foi da, dydy Spiderman ddim yn mynd i’ch brifo chi.

“Mae torri gwallt yn rhywbeth a allai eich brifo, ond dydy Spiderman ddim yn mynd i’ch brifo.

“Rwy’n meddwl mai dyna pam rydw i mor llwyddiannus yn yr hyn rydw i’n ei wneud.

“Dwy flynedd yn ddiweddarach, rwy’ wedi cael 20 o blant mewn 20 mis yn mynd o beidio â chael torri’u gwallt i eistedd yn y siop farbwr fel y gallan nhw gael torri eu gwallt gyda’u tadau.

“Mae’r wisg yn rhan enfawr o’r busnes.

“Mae gen i chwe ysgol SEN (Anghenion Addysgol Arbennig) dwi’n mynd iddyn nhw, o Gilgwri i Gaernarfon.

“Rwy’n siarad â thair neu bedair ysgol arall i dorri gwallt plant.

“Mae hynny’n fonws enfawr.

“Rydym yn gwneud pethau fel mynd i gartrefi gofal i bobol â dementia i dorri’u gwallt.

“Y diben yw darparu gwasanaeth i’r teuluoedd sydd wedi bod yn cael trafferth, er mwyn i’r plentyn deimlo ei fod yn edrych fel pawb arall.

“Ei ddiben yw eu helpu i wneud bywyd mor hawdd â phosibl.

“Os yw hynny’n golygu gwneud iddyn nhw edrych fel y brawd neu’r tad, yna rwy’n hapus bod y busnes yn gweithio.”