Byddai’r Ceidwadwyr Cymreig bron â diflannu’n llwyr mewn etholiad cyffredinol, yn ôl pôl piniwn gan YouGov ar ran WalesOnline.

Mae’r pôl wedi’i gyhoeddi ar drothwy Dydd Gŵyl Dewi, ac mae’n dangos y byddai’r Ceidwadwyr ond yn ennill 19% o’r bleidlais, tra bod cyfran Llafur o’r bleidlais wedi codi o 41% yn 2019 i 53% erbyn hyn.

Cafodd 1,083 o bobol dros 16 oed yng Nghymru eu holi rhwng Chwefror 17-23 a chafodd y canlyniadau eu mesur yn ôl pa mor debygol oedd pobol o bleidleisio, gan hepgor y rhai na fydden nhw’n pleidleisio, y rhai nad oedden nhw’n gwybod, neu’r rhai wrthododd ateb, yn ogystal â’r rhai 16 ac 17 oed yr wythnos hon.

O blith pobol 25 i 49 oed, 7% yn unig yw cyfran y Ceidwadwyr.

Ers 2019, mae’r Ceidwadwyr wedi cael eu hunain ynghanol sawl sgandal, ac wedi bod o dan reolaeth tri Phrif Weinidog yn San Steffan yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae canlyniad y pôl hwn yn debyg i 2001, pan wnaethon nhw ddim ennill yr un sedd yng Nghymru.

Enillon nhw 14 o seddi yn 2019, oedd yn gynnydd o chwech, gan ennill 36.1% o’r bleidlais.

O blith y rhai bleidleisiodd dros y Ceidwadwyr yn 2019, mae 19% ohonyn nhw wedi troi at Lafur, gyda 12% yn mynd at Reform.

Yn y cyfamser, mae cyfran Llafur wedi codi o 41% i 53% yn yr un cyfnod, gyda 28% o’r rheiny bleidleisiodd dros Blaid Cymru yn 2019 bellach yn bwriadu cefnogi Llafur.

Mae’r gefnogaeth i’r Ceidwadwyr yn arbennig o isel ymhlith pobol oed gwaith o dan 50 oed ac o blith y rhai 25 i 49 oed, dim ond 7% fyddai’n pleidleisio dros y Ceidwadwyr pe bai etholiad ar unwaith.

Mae’r gefnogaeth i Lafur yn gryf yng Nghaerdydd a’r Cymoedd (62%).

Yn ôl Canolfan Llywodraethiant Cymru, byddai’r Ceidwadwyr yn cadw dwy sedd yn unig, y nifer isaf ers 2001. Yn etholaethau Brycheiniog a Maesyfed a Sir Drefaldwyn mae’r seddi hynny.

Cyfran y bleidlais

Dyma sut fyddai’r pleidiau’n perfformio mewn etholiad, yn ôl cyfrannau’r bleidlais:

Llafur: 53%

Ceidwadwyr: 19%

Plaid Cymru: 12%

Reform UK: 8%

Democratiaid Rhyddfrydol: 4%

Y Blaid Werdd: 3%

Eraill: 1%