Fe fydd gyrwyr cwmni Trenau Arriva Cymru yn cynnal streic 24 awr arall oherwydd anghydfod ynglŷn ag amodau gwaith.
Dywedodd Aslef y bydd ei aelodau yn streicio ar 1 Chwefror. Mae’n dilyn streic ar 4 Ionawr wrth i bobl ddychwelyd i’w gwaith ar ôl gwyliau’r Nadolig.
Yn ôl Aslef, mae cwmni Trenau Arriva Cymru wedi methu a chynnig “ateb boddhaol” i’r anghydfod gyda’r gyrwyr, sydd wedi parhau ers y llynedd, ac fe fyddan nhw felly yn cynnal streic ar 1 Chwefror.