Nigel Farage
Mae cwestiynau ynglŷn â pham nad yw ymgeiswyr Ukip yng Nghymru yn dod o Gymru yn codi “tôn annifyr cenedlaetholgar,” yn ôl arweinydd y blaid.

Roedd Nigel Farage yn siarad ddydd Llun cyn iddo fynd benben â Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones mewn dadl ar ddyfodol Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd.

Wrth gael ei holi y tu allan i adeilad y Senedd yng Nghaerdydd, fe fynnodd Nigel Farage fod Ukip yn ‘blaid Gymreig fywiog’ ac nid yn ‘blaid Saesneg gydag ychwanegiad Cymreig.’

Mae Ukip wedi lansio ymgyrch i ennill seddi yn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai, gyda’r nod o ennill naw sedd, allan o 60 posib i gyd.

Gallai ymgeiswyr y blaid yng Nghymru gynnwys y cyn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Rochester, Mark Reckless ac ymgeiswyr eraill o Loegr.

Ond pan gyfeiriwyd at hyn ar raglen Channel 4 News, atebodd Nigel Farage fod “tôn eithaf annifyr, cenedlaetholgar” i’r cwbl ac nad oedd e’n hoffi hynny.

Mae ei sylwadau wedi ennyn beirniadaeth, gyda sawl un ar Twitter yn ei feirniadu o ragrith, gan ei fod yn ymgyrchu yn erbyn aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

‘Ffyddiog’ o ennill seddi

Roedd Ukip wedi ennill bron i 14% o’r bleidlais yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol diwethaf ond ni enillodd yr un sedd o dan system y Cyntaf i’r Felin.

Ond o dan system o bleidleisio amgen y Cynulliad, mae’r blaid yn ffyddiog y byddan nhw’n ennill seddi y tro hwn.