Mae llywodraeth yr Almaen yn bwriadu ei gwneud hi’n haws i alltudio troseddwyr o dramor yn dilyn cyfres o ymosodiadau Nos Galan yn ninas Cologne.
Dywedodd g weinidogion y llywodraeth y byddai unrhyw ddedfryd o garchar am droseddau yn erbyn corff rhywun, gan gynnwys ymosodiadau rhyw, ynghyd â difrod difrifol i eiddo rhywun yn achos dros eu halltudio.
Yn ôl y Gweinidog Cyfiawnder, Heiko Maas a’r Gweinidog Cartref, Thomas de Maiziere, bydd y diwygiadau newydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i alltudio rhywun am drosedd o’r fath.
Dywedodd yr heddlu yn Cologne eu bod wedi derbyn 553 o gwynion troseddol mewn cysylltiad â’r ymosodiadau ar Nos Galan.
Y gred yw bod y rhan fwyaf o bobol sydd dan amheuaeth yn dod o dramor, gyda rhai ohonyn nhw’n geiswyr lloches.
Mae’r awdurdodau ar hyn o bryd yn ymchwilio i weld a oedd yr ymosodiadau rhyw a’r achosion o ladrata wedi’u cyd-lynu neu’n gysylltiedig â digwyddiadau ar raddfa lai mewn dinasoedd eraill.
Er hyn, dywedodd pennaeth Swyddfa’r Heddlu Troseddol Ffederal, Holger Muench, nad oedd y troseddau wedi cael eu ‘trefnu’.