Sammy Almahri
Mae dyn busnes o America sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio dynes mewn gwesty yng Nghaerdydd wedi ymddangos yn y llys.

Cafodd Sammy Almahri ei anfon yn ôl i’r Deyrnas Unedig o Tanzania y llynedd i gael ei holi gan yr heddlu am farwolaeth Nadine Aburas, 28.

Cafwyd hyd i gorff y fyfyrwraig yng ngwesty’r Future Inn ym Mae Caerdydd ar Nos Galan yn 2014.

Fe ymddangosodd Sammy Almahri, 45 yn y doc yn ystod gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd o flaen Barnwr yr Uchel Lys, Nicola Davies heddiw.

Bydd bellach yn cael ei gadw yn y ddalfa ac yn ymddangos yn y llys ar 25 Ionawr.