Miriam Briddon gyda'i chi, Roxy
Mae teulu merch ifanc o Geredigion a gafodd ei lladd mewn damwain car yn galw am ddedfrydau llymach i yrwyr sy’n achosi marwolaethau trwy yrru’n beryglus a diofal ar yr hewl.

Cafodd Miriam Briddon, 21, o Gross Inn ger Cei Newydd, ei lladd ar 29 Mawrth 2014, tra’n gyrru i gyfeiriad Felin Fach, at dy ei chariad.

Roedd gyrrwr y car, Gareth Entwistle, wedi bod yn yfed, yn gyrru’n rhy gyflym, ac wedi methu cymryd y tro yn yr hewl pan darodd gar Miriam.

Fe blediodd Gareth Entwistle yn euog i achosi marwolaeth trwy yrru’n ddiofal dan ddylanwad alcohol. Ym mis Hydref llynedd, ddeunaw mis wedi’r ddamwain, cafodd ei ddedfrydu i bum mlynedd a hanner o garchar – ond dywedodd y barnwr y gallai gael ei ryddhau ar ôl treulio hanner ei ddedfryd dan glo.

‘Sarhad’

Mewn cyfweliad a rhaglen materion cyfoes y Byd ar Bedwar, mae mam Miriam, Ceinwen Briddon, yn dweud fod y teulu wedi eu siomi’n aruthrol gyda’r ddedfryd.

“Mae’n sarhad i’r cof amdani mai dim ond dwy flynedd a hanner fydd e’n gorfod neud yn y carchar. Os yw rhywun yn lladd rhywun diniwed, dylai’r ddedfryd fod yn ugain mlynedd a mwy yn y carchar,” meddai.

‘Ai dwy flynedd oedd gwerth bywyd Miriam?’

Mae chwaer hynaf Miriam, Katie-Ann, hefyd yn teimlo bod diffyg cyfiawnder yn y system bresennol.

“Beth yw’r pwrpas o gael yr holl hysbysebion, yr holl bethau’n son am yfed a gyrru os, pan mae’n dod i’r llys, dim ond dwy flynedd a hanner ma’ rhywun yn ei gael?” meddai.

“Oedd e’n hala fi deimlo’n drist iawn i feddwl mai dyma yw gwerth bywyd rhywun. Ife jyst dwy flynedd yn y carchar oedd gwerth bywyd Miriam?”

‘Dim hanner digon’

Un arall sydd eisie gweld dedfrydau’n cael eu tynhau yw tad Lona Wyn Jones, a laddwyd gan yrrwr peryglus ar gyrion y Bala yn 2012. Cafodd y gyrrwr yn yr achos hwnnw, Ian Wyn Edwards, ddedfryd o dair blynedd a naw mis o garchar, ond mae wedi dod allan ar drwydded ar ôl 20 mis.

Mae tad Lona, Martin Jones, o’r Brithdir hefyd wedi ei siomi.

“Dwi’n gandryll, doedd o ddim hanner digon. Tair blynedd a naw mis – ac na’th o ddim hanner hynny. Dylia fod life for a life,” meddai.

‘Angen gweithredu’

Un sy’n gefnogol i alwadau’r teulu yw Aelod Seneddol De Clwyd, Susan Elan Jones. Mae hi wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth San Steffan i dynhau’r dedfrydau i’r rheiny sy’n achosi marwolaethau ar y ffyrdd wedi i fachgen naw oed gael ei ladd yn ei hetholaeth yn 2009, gan yrrwr heb drwydded nac yswiriant. Cafodd y gyrrwr ddedfryd o 22 mis – deg mis dreuliodd yn y carchar.

“Mae angen i’r Llywodraeth weithredu, ac fe wnawn ni gadw codi’r mater achos mae’n fater enfawr ar draws y wlad. Mae’n rhaid cael mesur o degwch yn y dedfrydau sy’n cael eu rhoi,” meddai.

‘Ystyried yn ofalus’

 

Yn 2014, pum mlynedd o garchar oedd y ddedfryd ar gyfartaledd i yrwyr oedd yn achosi marwolaeth tra’n gyrru’n beryglus, pedair blynedd a chwe mis am achosi marwolaeth trwy yrru’n ddiofal dan ddylanwad alcohol. Dedfryd gymunedol yw’r gosb fwya’ gyffredin am achosi marwolaeth trwy yrru’n ddiofal.

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi dechrau adolygiad i ddedfrydau am droseddau ffyrdd ers 2014. Wrth ymateb i’r galwadau am gosbau llymach, dywedodd y Llywodraeth fod y troseddau yma yn cael eu hystyried o ddifri.

“Mae dedfrydau llym o hyd at 14 mlynedd o garchar ar gael i’r llysoedd,” meddai llefarydd.

“Mae hwn yn fater difrifol ac anodd, ac rydyn ni’n ystyried yn ofalus sut fyddai orau i fynd a’r mater ymlaen.”

Bydd Y Byd ar Bedwar – Gyrwyr sy’n Lladd yn cael ei darlledu heno, 9.30yh ar S4C.