Y Bwthyn gan Caryl Lewis ddaeth i'r brig
Mae’n siŵr y cawsoch chi ambell i lyfr – o bosib sawl un – yn eich hosan Nadolig yn ddiweddar, gyda chyfrolau newydd yn aml yn canfod eu hunain yn cael eu lapio fel anrhegion yr adeg honno o’r flwyddyn.

Ond pa gyhoeddiadau oedd y mwyaf poblogaidd yn ystod yr ŵyl yn 2015? Ai nofelau, bywgraffiadau, cyfrolau ffeithiol (neu lyfrau plant!) oeddech chi’n darllen ar ôl bwyta’ch twrci?

Dyma’r ugain llyfr werthodd fwyaf yn ystod Hydref, Tachwedd a Rhagfyr llynedd yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn ôl gwales.com:

Llyfrau Cymraeg

1.Y Bwthyn – Caryl Lewis (Y Lolfa): Y nofel am anturiaethau tri chymeriad sydd yn troi o gwmpas bwthyn ar dir fferm fynyddig ddaeth i’r brig.

2. I Botany Bay – Bethan Gwanas (Y Lolfa): Stori yn dilyn hanes go iawn merch o’r enw Ann Lewis o Ddolgellau, gafodd ei halltudio i Awstralia.

3. Pobol – Dafydd Iwan (Y Lolfa): Portreadau o rhai o fawrion y genedl, o Lewis Valentine i Kate Roberts, Ray Gravell i Merêd, drwy lygad y cerddor a’r ymgyrchydd adnabyddus.

4. Yr Hen Ddyddiadau – John Pierce Jones (Gwasg Carreg Gwalch): Yr hunangofiant uchaf ar y rhestr, wrth i ni gael hanes bywyd yr actor, sgriptiwr a morwr o Fôn.

5. Blas y Bryniau – Dafydd Edwards (Gwasg Carreg Gwalch): Hanes y canwr adnabyddus sydd hefyd yn ffermwr ac yn hanesydd teulu.

6. Llyfr Mawr LOL – gol. Arwel Vittle (Y Lolfa): Dathliad o 50 mlynedd ers sefydlu cylchgrawn dychanol ac eiconig LOL.

7. O Ffyrgi i Ffaro: Hunangofiant Bryan yr Organ – Bryan Jones, Terwyn Davies (Gwasg Gomer): Hunangofiant y cymeriad bywiog o Geredigion.

8. Dianc i Ryddid: Rhyfel D. T. Davies – D. T. Davies, Ioan Wyn Evans (Gwasg Gomer): Hunangofiant cyn-garcharor rhyfel yn yr Ail Ryfel Byd, 70 mlynedd ers iddo ddianc o Awstria.

9. Rifiera Reu – Dewi Prysor (Y Lolfa): Nofel ddiweddaraf yr awdur i oedolion, yn llawn direidi a hiwmor tywyll fel y disgwyl.

10. Llyfr Gwyn – Gwyn Thomas (Cyhoeddiadau Barddas): Y bardd, darlithydd ac Athro prifysgol yn trafod ei fywyd a dylanwadau ar ei waith.

11. Nadolig Llawen Cyw – Anni Llŷn (Y Lolfa)

12. Pump Prysur: Nadolig Llawen Pump Prysur – Enid Blyton (Atebol)

13. Peppa Pinc: Nadolig Peppa – Mark Baker, Neville Astley (Rily)

14. Na, Nel! Ho, Ho! – Meleri Wyn James (Y Lolfa)

15. Coeden Cadi – Bethan Gwanas (Y Lolfa)

16. Storïau’r Nadolig: Dilyna’r Llwybr gyda dy Fys (Rily)

17. Hipo Cyntaf ar y Lleuad – David Walliams (Atebol)

18. Nos Da, Santa – Michelle Robinson (Gwasg Gomer)

19. Peppa Pinc: Lliwiau gyda Peppa – Neville Astley, Mark Baker (Rily)

20. Peppa Pinc: 1 2 3 gyda Peppa – Neville Astley, Mark Baker (Rily)

Llyfrau Saesneg

1.Half Time: The Autobiography – Nigel Owens, Lynn Davies (Y Lolfa): Fersiwn Saesneg yr hunangofiant sydd allan ers dwy flynedd, ond yn adlewyrchu diddordeb y Cymry yn stori’r dyfarnwr poblogaidd.

2. J J Williams: the Life and Times of a Rugby Legend – J. J. Williams, Peter Jackson (Y Lolfa): Hunangofiant y chwaraewr rygbi chwedlonol oedd yn rhan o dîm enwog Cymru yn y 1970au.

3. Welsh Rugby in the 1970s – Carolyn Hitt (Gwasg Gomer): Dathliad o oes aur i rygbi yng Nghymru welodd sêr fel Gareth Edwards, Barry John a JPR Williams ar eu hanterth.

4. Great Rugby Moments – Gareth Edwards, Alun Wyn Bevan (Gwasg Gomer): Llyfr bwrdd-coffi lliw llawn yn edrych nôl ar rai o ddigwyddiadau mwyaf cofiadwy’r gamp.

5. Scarlets: The Official History – Alun Gibbard (Graffeg): Hanes swyddogol y rhanbarth o Lanelli o’i sefydlu nôl yn 1876 hyd heddiw.

6. Goughy: A Tough Lock to Crack – Ian Gough, Peter Owen (Y Lolfa): Hunangofiant cyn-chwaraewr Cymru enillodd y Gamp Lawn ddwywaith gyda’i wlad yn y 2000au.

7. Red Dragons: The Story of Welsh Football – Phil Stead (Y Lolfa): Fersiwn diweddaraf yr hanes am bêl-droed Cymru, gan gynnwys pennod ar ymgyrch Ewro 2016.

8. Zombie Nation Awakes – Bryn Law (St. David’s Press): Golwg ar yr ymgyrch lwyddiannus i gyrraedd Ewro 2016 drwy lygad gohebydd Sky Sports fu yn ei chanol hi.

9. A Life In History – John Davies (Y Lolfa): Cyfieithiad John Gower o hunangofiant yr hanesydd Cymreig adnabyddus John Davies fu farw llynedd.

10. The Shadow Of Nanteos – Jane Blank (Y Lolfa): Nofel serch hanesyddol am y teulu Powell o blasty Nanteos ger Aberystwyth.

11. When I Grow Up, I’m Going to Play For… Wales – Gemma Gary (Hometown World)

12. A Child’s Christmas in Wales– Dylan Thomas (J. M. Dent) (clawr meddal)

13. A Child’s Christmas in Wales– Dylan Thomas (J. M. Dent) (clawr caled)

14. One Moonlit Night – T. Llew Jones (Pont Books)

15. Santa’s Sleigh is on Its Way to Cardiff – Eric James (Hometown World)

16. Horrible Histories: Wales – Terry Deary (Scholastic)

17. The Four Branches of the Mabinogi – Siân Lewis (Rily)

18. My First 1000 Words in Welsh – Cath Bruzzone (Rily)

19. Santa is Coming to Wales – Steve Smallman (Hometown World)

20. The Little Welsh Rugby Fan – Mark Williams (Y Lolfa)