Dylai Cymru allu gosod ei chyfraddau a’i bandiau treth ei hun i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, yn ôl Plaid Cymru.

Mewn dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Chwefror 8), bydd Plaid Cymru’n galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi datganoli’r gallu i osod cyfraddau a bandiau Treth Incwm Cymru.

Yn ôl Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, mae’r cyfyngiadau presennol ar bwerau amrywio trethi Llywodraeth Cymru yn eu rhwystro rhag llunio polisïau effeithiol, yn enwedig rhai fyddai’n gallu ymateb i’r argyfwng costau byw.

Dylai’r Senedd gael yr un pwerau i bennu ei bandiau treth incwm ag sydd gan Senedd yr Alban yn barod dan Ddeddf yr Alban 2012, meddai.

‘System drethu decach’

Byddai rhoi’r grym i Gymru amrywio ei bandiau treth yn helpu i ddatrys yr argyfwng sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus y wlad hefyd, yn ôl Adam Price.

“Mae gweithwyr yn cael eu gorweithio heb gyflogau digonol. Mae gwasanaethau cyhoeddus wedi cael eu torri i’r asgwrn,” meddai.

“Mae argyfwng costau byw San Steffan wedi taro Cymru yn galed.

“Yr wythnos hon, galwodd Plaid Cymru ar y Llywodraeth Lafur i ddefnyddio ei phwerau i amrywio trethi i gynhyrchu £317m ychwanegol er mwyn cynnig codiad cyflog o 8% i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd – y codiad cyflog cyntaf mewn termau real mewn dros ddegawd – i helpu i fynd i’r afael â phrinder staffio a rhoi isafswm o £12 yr awr i weithwyr gofal.

“Ond rydym yn cydnabod mai dim ond hyn â hyn y gellir ei wneud efo’r pwerau i amrywio trethi sydd gennym nawr.

“Pe bai gan Gymru’r gallu i osod ei bandiau a’i chyfraddau treth ei hun, gallem fynd i’r afael â’r argyfwng o ran tâl a blinder yn ein gwasanaethau cyhoeddus yn well, a theilwra atebion i’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau ar hyn o bryd.

“Os yw Llafur wir yn blaid y gweithwyr, fel maen nhw’n honni, fe fyddan nhw’n cefnogi ein galwadau am system drethu decach i Gymru ac yn mynnu’r pwerau i osod ein bandiau a’n cyfraddau treth ein hunain – yn union fel yr Alban, yn hytrach na chaniatáu i ni gael ein gorchymyn gan San Steffan, unwaith eto.”