Mae un o brotestwyr Pont Trefechan 60 mlynedd yn ôl yn dweud bod ei hangerdd am yr iaith Gymraeg yn gorbwyso’i phryderon am gael ei harestio am weithredu’n uniongyrchol.
Daeth pymtheg o brotestwyr gwreiddiol Cymdeithas yr Iaith a rhwng 100 i 200 o bobol i gyd ynghyd yn Aberystwyth ddydd Sadwrn (Chwefror 4), ar gyfer taith gerdded i ddathlu 60 mlynedd ers eu protest gyntaf ar y bont.
Roedd oedd y brotest gyntaf yn ddigymell ar Bont Trefechan, lle eisteddodd pobol ar lawr a rhwystro traffig rhag symud, gan sbarduno degawdau o brotestio dros yr iaith gan Gymdeithas yr Iaith.
Dechreuodd y daith dros y penwythnos ar Bont Trefechan, cyn ymweld â nifer o leoliadau eiconig y dref sy’n rhan o hanes y mudiad.
Un o’r protestwyr gwreiddiol ar Bont Trefechan oedd Menna Cravos (Menna Dafydd adeg y brotest), a bu’n siarad â golwg360 gan edrych yn ôl i’r digwyddiad 60 mlynedd yn ôl a’i effaith ar brotestiadau’r Gymdeithas heddiw.
“Rwyf wedi mwynhau heddiw, yn arbennig cwrdd â hen gyfeillion, gweld hen wynebau, efallai rhai nad oeddwn wedi’u gweld ers rhai blynyddoedd, a chael cyfle i sgwrsio a chyfnewid straeon a chofio am yr hyn ddigwyddodd trigain mlynedd yn ôl,” meddai wrth golwg360.
‘Ffordd o brotestio oedd yn wahanol iawn’
I’r bobol hynny eisteddodd ar y bont, roedd yn ddiwrnod pwysig yn natblygiad Cymdeithas yr Iaith wedyn, gyda’r bobol ifanc yn angerddol iawn dros yr iaith.
“Rwy’n credu bod coffáu beth ddigwyddodd trigain mlynedd yn ôl yn bwysig i hanes y Gymdeithas a hanes yr iaith yng Nghymru,” meddai Menna Cravos wedyn.
“Roedd yn rywbeth hollol newydd.
“Roedd yn ffordd o brotestio oedd yn wahanol iawn i beth oedd wedi bod o’r blaen ar wahân i efallai Penyberth.
“Roedd yn rywbeth oedd yn dod â phobol ifanc oedd ar dân dros yr iaith at ein gilydd, ac yn ffordd o ddangos ein teyrngarwch ni at yr iaith ac yn ffordd o fynnu ein bod yn cael cyfiawnder i’r iaith.”
‘Protest yn un anhrefnus’
Er nad oedd y brotest wedi ei threfnu ymlaen llaw, cyd-ddigwyddiad oedd i Menna Cravos daro ar un o’r protestwyr ger y bont.
“Roedd rhywun wedi cyfeirio at y ffaith bod y brotest yn un anhrefnus, eu bod nhw wedi trefnu posteri ac yn y blaen, doedd neb yn siŵr i ba gyfeiriad i fynd wedyn,” meddai.
“Roeddwn yn un o’r rhai oedd gyda’r protestwyr i ddechrau, ond digwydd gweld Megan efallai yn cerdded at y bont a gofyn “ble y’ch chi’n mynd?” a phenderfynais i’r adeg honno, er gwaethaf fy mhryderon i ynglŷn â chael fy arestio ac yn y blaen, fy mod eisiau bod yn rhan oherwydd roeddwn yn angerddol dros yr iaith.
“Ar yr un pryd roeddwn ychydig yn ofnus ynglŷn â’r canlyniadau.”
Gyda phymtheg o’r criw gwreiddiol yn Aberystwyth dros y penwythnos, mae’r Gymdeithas wedi gwneud cryn ymdrech i wahodd y bobol oedd ar y bont i ddod i’r daith gerdded.
“Roedd tua phymtheg o’r rhai gwreiddiol yma,” meddai Siân Howys, un o’r prif drefnwyr, wrth golwg360.
“Rydym wedi ceisio gwneud ymdrech i roi’r neges allan ar weld a chysylltu efo pobol.
“Wrth gwrs, yn anffodus, mae yna bobol sydd ddim efo ni dim mwy, ac mae yna bobol am wahanol resymau iechyd ac yn y blaen ac am amgylchiadau eraill yn methu dod.
“Mae’n hyfryd bod yna gymaint wedi dod hefyd.”
Y Cyfrifiad
A’r digwyddiad yn gyfle i’r protestwyr gwreiddiol gael eu gwerthfawrogi a’u cofio, roedd y brotest hefyd yn ymateb yn rhannol i’r Cyfrifiad.
Yr un yw’r frwydr heddiw â’r un fu yn 1963, gyda Chyfrifiad arall yn dangos cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg.
“Roedd yn braf gweld pobol rydym wedi bod yn cyd-ymgyrchu efo, a gweld y protestwyr cynnar yn cael cydnabyddiaeth,” meddai Sian Howys.
“Yn wleidyddol, rwy’n meddwl ei fod yn bwysig ein bod yn gallu deall ein hanes ni, ac wedyn mae hynny’n helpu ni i ofyn am y gofynion ar hyn.
“Yn rhannol, ymateb i’r Cyfrifiad oedd sefydlu Cymdeithas yr Iaith ar ôl darlith Tynged yr Iaith.
“Dyma ni nawr, rydym efo canlyniad Cyfrifiad arall i ddod i dermau â fe.
“Mae’n bwysig iawn i ni ddeall sut rydym wedi delio â heriau’r iaith, ond sut rydym yn mynd i ddelio â sefyllfa’r iaith a’n galwadau hefyd.”
‘Galwadau wedi mynd yn fwy eang’
Er mai brwydro dros hawliau ieithyddol mae Cymdeithas yr Iaith wedi’i wneud erioed a’r dulliau wedi aros yr un fath, mae Siân Howys yn credu bod y galwadau wedi newid a datblygu.
“Rwy’n meddwl bod y galwadau wedi mynd yn fwy eang a chymhleth ers y dyddiau cynnar, gan bo ni wedi ennill statws,” meddai.
“Wrth gwrs, wedyn, mae’r dulliau wedi bod yr un mor bwysig i ni gynnal y dulliau chwyldroadol yna.
“Mae hynny’n neges bwysig am sut rydym yn gallu cael enillion.
“Ti’n gorfod gwneud y gwaith lobïo a ti hefyd yn gorfod gwneud y gwaith ymgyrchu.
“Mae’n bwysig iawn ein bod yn cofio am y protestwyr cynnar, a’n bod ni’n cydnabod yr ymdrech ar y diwrnod yna.
“Wrth gwrs, wedyn, roedd y dull o brotestio torfol ac o fynd ymlaen i dorri’r gyfraith yn dod yn ganolog i frwydr yr iaith.
“Mae [y digwyddiad yn Aberystwyth] yn gyfle i gofio hynny ac i dalu teyrnged.
“Hefyd, rydym wedi edrych ymlaen ar hyd y degawdau ac wedi trafod sut mae brwydr yr iaith wedi datblygu, sut rydym wedi gallu mynd â brwydr yr iaith ymlaen i faes tai a’r economi o’r cyfnod cynnar, o frwydro dros statws swyddogol.
“Rydym hefyd wedi bod yn edrych ymlaen ac wedi clywed areithiau gan aelodau ifanc Cymdeithas yr Iaith a sut mae’r frwydr dros Gymru rydd, Cymru werdd, Cymru Gymraeg i gyd yn dod at ei gilydd yn y gofynion sydd gan y Gymdeithas heddiw.
“Mae’n gyfle i edrych yn ôl a chyfle i edrych ymlaen, a chael y cenedlaethau o ymgyrchwyr yma i siarad efo’i gilydd.
“Mae hynny wedi bod yn beth braf iawn.”