Mae Rhwydwaith Canser Cymru wedi lansio cynllun gwella tair blynedd sy’n mynd i fod yn fuddiol i gleifion a gweithwyr gofal iechyd canser proffesiynol ledled Cymru.
Nod y cynllun gweithredu yw gwella canlyniadau a phrofiadau cleifion canser.
Mae’n canolbwyntio ar atal canser, gwneud diagnosis ohono yn gynharach ac yn gyflymach, trin cleifion gyda’r triniaethau mwyaf effeithiol, a’u cefnogi nhw a’u gofalwyr ar hyd y llwybr triniaeth hwn a’r tu hwnt.
Mae’r Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser yn nodi sut y bydd amseroedd aros cenedlaethol ar gyfer triniaethau canser yn lleihau drwy waith canolfannau diagnostig cyflym un stop, darparu Llwybrau Delfrydol Cenedlaethol ar gyfer canser yn unol â thargedau Llywodraeth Cymru, defnyddio technoleg a phrosesau arloesol, a gweithio ar y cyd ar lefel genedlaethol ar draws ffiniau byrddau iechyd.
Mae’n disgrifio’r hyn y bydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’i bartneriaid yng Nghymru yn ei wneud i wella’r ffordd mae triniaethau canser effeithiol yn cael eu darparu – gan gynnwys llawdriniaeth, radiotherapi, therapi gwrth-ganser systemig a gofal cefnogol – a gwella pa mor hygyrch ydyn nhw.
Mae’r Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser hefyd yn nodi cynlluniau ar gyfer darparu canllawiau cenedlaethol i gleifion sy’n byw gyda chanser nad oes modd gwella ohono neu gleifion sy’n marw o ganser, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn safon well o ofal wedi’i bersonoli ac yn cael gofal diwedd oes pan fydd angen.
Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru, cleifion canser, rhanddeiliaid ehangach, Llywodraeth Cymru a Chynghrair Canser Cymru wedi cydweithio i gefnogi’r gwaith o lunio’r cynllun.
‘Sicrhau gwelliant wrth galon y cynllun’
“Mae Rhwydwaith Canser Cymru wedi ymrwymo i gyflawni gwelliannau cynaliadwy a mesuradwy i wasanaethau canser, a hynny drwy gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i weithredu’r camau sydd wedi’u nodi yn y Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser,” meddai Claire Birchall, Rheolwr Rhwydwaith Canser Cymru.
“Mae sicrhau gwelliant yng ngofal cleifion canser wrth galon y cynllun hwn, sy’n cynnwys agenda i wella’r broses o gael diagnosis, gwella effeithiolrwydd triniaethau a gwella profiad cleifion canser ar draws yr holl fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yng Nghymru.”
Yn ôl Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, bydd canser yn effeithio ar fywydau pawb ar ryw adeg, gyda 50% o’r boblogaeth yn cael diagnosis o ganser rywbryd yn eu bywydau.
“Gydag un allan o bob dau ohonon ni’n datblygu canser o ryw fath yn ystod ein hoes, bydd canser yn effeithio ar fywydau pob un ohonon ni ar ryw adeg,” meddai.
“Ar gyfer y bobol hynny sy’n datblygu canser, mae angen inni sicrhau bod gwasanaethau o safon ar gael i’w cefnogi a’u trin yn gyflym ac yn briodol er mwyn sicrhau’r canlyniadau iechyd mwyaf cadarnhaol posibl.
“Yn ôl canfyddiadau Arolwg Profiad Cleifion Canser Cymru 2020, rhoddodd 92% o’r ymatebwyr sgôr uchel ar gyfer eu gofal cyffredinol, ond mae rhagor o waith gennym ni i’w wneud o hyd.
“Bydd y Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser yn ein helpu i adeiladu ar wasanaethau canser presennol er mwyn gwella canlyniadau a phrofiadau cleifion, atal a chanfod canser yn gynharach a lleihau amseroedd aros.
“Mae hwn wedi bod yn gyfnod heriol iawn i’n gwasanaeth iechyd, ond rwy’n falch o weld bod gwaith yn cael ei wneud i wella gwasanaethau canser.
“Byddwn ni’n parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau canser a gweithio gyda’r GIG i wella ansawdd y gofal a chanlyniadau cleifion.”
‘Pwysau digynsail’
Yn ôl yr Athro Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cenedlaethol Cymru, mae gwasanaethau canser a gwasanaethau gofal iechyd ar y cyfan “dan bwysau digynsail”.
“Mae’n ddyletswydd ar bawb sy’n arwain, yn cynllunio ac yn darparu gwasanaethau canser i wneud popeth posibl i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl ar gyfer cleifion yn ystod cyfnod heriol,” meddai.
“Y newyddion da yw bod gennym ni syniad da o sut i wella canlyniadau cleifion, ac mae’r Cynllun Gwella hwn yn disgrifio’r hyn y mae angen inni ei wneud i gyflawni’r hyn y mae’r cyhoedd a chleifion yng Nghymru yn ei haeddu.”
Dywed Lowri Griffiths, cadeirydd Cynghrair Canser Cymru, fod y cynllun “i’w groesawu”, gyda Chynghrair Canser Cymru’n galw ers tro am gynllun manwl ar gyfer gwasanaethau canser, ar ôl i Cyflawni Canser Cymru ddod i ben yn 2020.
“Mae Cynllun Gwella Canser Cymru yn amlinellu’r camau y mae angen i Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru eu cymryd i wella canlyniadau canser, a phrofiad pobol gyda chanser, dros y tair blynedd nesaf,” meddai.
“Fe wnaeth pandemig Covid-19 greu problemau enfawr i’n gwasanaethau iechyd ac amharu ar eu hymdrechion i gyflawni llawer iawn o welliannau i wasanaethau canser, ac mae’r effaith y mae’r pandemig wedi’i chael ar ein huchelgeisiau ar y cyd wedi bod yn sylweddol.
“Mae Cynghrair Canser Cymru yn cynrychioli 28 o elusennau canser sy’n gweithio ochr yn ochr a hefyd mewn partneriaeth â Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.
“Rydan ni’n helpu i ddiwallu anghenion y bobol sydd wedi eu heffeithio gan ganser.
“Rydym yn falch ein bod fel Cynghrair wedi cael gwahoddiad i gyfrannu at y cynllun, ac yn bwysicach ein bod wedi gallu ymgysylltu â dros 160 o bobol sydd â phrofiad canser uniongyrchol, a bwydo hynny i gamau olaf datblygiad y cynllun.
“Mae’n hanfodol bod gwasanaethau’n cael eu datblygu i ddiwallu eu hanghenion.
“Rydym nawr yn symud ein ffocws i weithredu’r cynllun.
“Mae Cynghrair Canser Cymru yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â Rhwydwaith Canser Cymru, byrddau iechyd lleol a phartneriaid eraill i gyflawni’r cynllun a bod yn rhan o system sy’n sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i bobol yng Nghymru y mae canser yn effeithio arnynt.”